Un dyn bach ar ôl
Mae'n hawdd anghofio ond mae eleni yn flwyddyn etholiad. Ymhen ychydig fisoedd fe fydd gofyn i ni fwrw ein pleidleisiau i ddewis cynrychiolwyr Cymru yn Senedd Ewrop.
Mae'n anodd teimlo llawer o frwdfrydedd ynghylch yr ornest o ystyried y fathemateg. O'r pedair sedd byswn yn fodlon betio ein cwningen anwes y bydd Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn ennill un yr un. Dim ond un sedd sydd yn y fantol felly.
Er mwyn ennill y sedd honno mae'r targed i Blaid Cymru a'r Torïaid yn un digon syml i osod ond hynod anodd i gyrraedd. Y cyfan sydd angen yw ennill mwy o bleidleisiau na Llafur. Y cyfan sydd angen? Dyw hynny ddim wedi digwydd mewn unrhyw etholiad yng Nghymru ers dauddegau'r ganrif ddiwethaf. Ydy'r fath beth hyd yn oed yn yn bosib? Wel, ydy ond mae'n dibynnu ar sawl "os"!
Os oedd yr etholiad yn troi'n refferendwm ar yr economi ac os oedd seren UKIP yn pylu ac os oedd pleidleiswyr y cymoedd yn methu troi mas mae'n bosib dychmygu y gallai'r Torïaid drechu Lafur.
Yn yr un modd pe bai pleidleiswyr y cymoedd yn dewis cicio Llafur fel gwnaethon nhw yn 1999 a phe bai'r Gymru wledig yn pleidleisio'n drymach na'r Gymru ddinesig gallai Plaid Cymri gyrraedd y brig. Annhebyg, ond posib.
Oes 'na unrhyw blaid arall a gobaith o ennill y bedwaredd sedd? Unwaith eto, mae'r fathemateg yn syml. Y nod yw ennill 50%+1 o bleidlais pa bynnag blaid sydd ar y brig.
Dydw i ddim yn gweld unrhyw ffordd y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, y BNP na'r Blaid Werdd yn gallu cyflawni hynny. Mae Karl y bwci yn hoff o gynnig ei brisiau yn yr hen ddull. Mae'n well gen i'r system newydd o ganrannau. Dyma nhw.
Llafur; 70%, Ceidwadwyr; 15%, Plaid Cymru; 10%, Plaid Arall;5%
SylwadauAnfon sylw
Yr unig peth fyddwn i'n adio yw fod etholiad agos yn wneud hi'n haws i'r 4ydd Plaid ennill sedd. Os yw'r 3 plaid arall i gyd ar llai na rhyw 28% dim ond 14% sydd angen ar y Libs/UKIP. Byddwn i'n fodlon rhoi £10 ar y 20 to 1 ti'n cynnig ar eraill (ond rwyt ti'n iawn fod o'n anhebyg).