Jac Codi Baw
Go brin fod llawer yn galaru erbyn hyn ynghylch diflaniad siroedd 1973. Fe fydd 'na fawr o alar ar ôl eu pencadlysoedd ychwaith.
Oce, dyw Cwmbrân byth yn mynd i fod yn Farcelona neu Gaerfaddon ond fe fydd hi'n fwy deniadol unwaith mae Neuadd Sir Gwent wedi dymchwel. Chwarae teg i Gynghorau Torfaen a Sir Fynwy am alw'r bwldosers i mewn!
Oes unrhyw siawns y bydd cynghorwyr Sir Fflint yn dilyn eu hesiampl? Wedi'r cyfan, pe bai Neuadd Sir Yr Wyddgrug yn mynd fe fyddai gobaith i adeilad arall ennill cystadleuaeth y plorod pensaernïol!
SylwadauAnfon sylw
Mi ydwyf i'n un o'r rhai prin sydd yn dal i deimlo perthynas a'r hen siroedd. Hogyn o Feirion ydwyf ac fel hogyn o Feirion byddwyf yn sefyll ar ddydd y farn! Mae'n syndod faint o drigolion Siroedd Meirionnydd a Maldwyn yn arbennig, sydd wedi eu geni ar ôl 1973 sydd yn parhau ag ymrwymiad i'r hen siroedd!
Yr wyf hefyd y m mysg y rhai prin sydd yn credu bod yr adeiladau dinesig yn yr Wyddgrug yn nhrysorau o bensaernïaeth eu cyfnod. Mi ymladdaf hyd yr eithaf yn erbyn dy ymgyrch i roi'r bwldowser ar eu cyfyl.
Tydw i ddim yn siwr a ydw i'n cytuno am dy sylwadau am y swyddfeydd yn yr Wyddgrug, ond yn sicr mae adeiladau Cyngor Gwynedd yn arbennig iawn.
Dw i'n eitha licio'r adeilad yn yr Wyddgrug hefyd, ond fel adeilad Cwmbran, does dim galw am ei ddefnydd - er, pan na ellil'r eu haddasu?
Hyll neu beidio, bydd eu tynnu i lawr yn gostus heb sôn ma godi rhai newydd yn eu lle.
Gobeithio neith y bwldosers ddim anghofio pencadlys Heddlu Gwent
Byddai'n dda gwybod beth oedd gan Vaughan i'w ddweud yn 4 ...!