Rhowch imi fy hyfryd got...
Mae pobol yn marw ac anifeiliaid yn trigo. Beth yw'r ferf gywir ar gyfer LCO dywedwch?
Mae'n ymddangos bod rhybudd Elystan Morgan bod yr LCO Tai yn debyg o gael ei wrthod yn NhÅ·'r Arglwyddi wedi rhoi'r hoelen olaf yn arch y cais neu o leiaf yr hoelen olaf yn arch y "feto". Mae'n debyg bod dadl seneddol yn ei gylch oedd i'w chynnal Ddydd Llun wedi ei "gohirio".
Am ryw reswm mae un o ganeuon Andrew Lloyd Webber yn dod i'r cof. "Ac awn yn ôl hyd y dechreuad..."
SylwadauAnfon sylw
... son am iaith ac yn fwy penodol ar y drafodaeth ar gywirdeb iaith, ti'n sylw fod dy flog yn cael mensh mewn erthygl ar orgraff y Gymraeg yn rhifyn cyfredol Cambria, Vaughan? www.cambriamagazine.com