... fel cana'r aderyn
Dydw i ddim gan amlaf yn nodi dewis darpar ymgeiswyr seneddol ond fe fydd y cyhoeddiad hwn yn achosi ambell i ochenaid mewn mwy nac un blaid. Fe fydd Paul Starling, gynt o'r Welsh Mirror, yn sefyll i "People's Voice" yn Nhorfaen. Cyn-ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy yw'r aelod presennol wrth gwrs.
Mae Paul (S) yn un o'r cymeriadau hynny sy'n mwynhau tynnu blew o drwynau ei wrthwynebwyr a gallwch chi fod yn gwbwl sicr na fydd ornest y mae'n rhan ohoni yn ddi-liw. Fe fydd Paul (M) ar y llaw arall yn gorfod dibynnu ar ei amynedd diarhebol.
Fe fyddai'n gamgymeriad i Lafur gredu na allai'r hyn ddigwyddodd ym Mlaenau Gwent ddigwydd yn Nhorfaen hefyd, er y byswn yn tybio bod gan ymgeisydd annibynnol well cyfle mewn etholiad cynulliad nac etholiad seneddol.
Etholiad 2007
Lynne Neagle (Llaf) 9,921 (42.7%)
Graham Smith (Ceid) 4,525 (19.5%)
Ian Williams (PV) 3,348 (14.4%)
Rhys Ab Ellis (PC) 2,762 (11.9%)
Patrick Legg (DR) 2,659 (11.4%)
Etholiad 2005
Paul Murphy (Llaf) 20,472 (56.9%)
Nick Ramsay (Ceid) 5,681 (15.8%)
V Watkins (DR) 5,678 (15.8%)
Aneurin Preece (PC) 2,242 (6.2%)
D Rowlands (UKIP) 1,145 (3.2%)
SylwadauAnfon sylw
Wy'n credu y bydden i'n canfasio dros y Blaid Lafur pe bai pethau'n agos - hwn yw Paul Starling "Its time for the Festival of Hate" ynglyn a'r Eisteddfod ondife! Ych a fi, a minnau'n aelod o PV (Islwyn) hefyd...
Rhaid gofyn beth ar wyneb y ddaear sydd ar feddwl aelodau PV yn dewis ymgeisydd gydag agweddau gwrth-Gymraeg mor amlwg, gobeithio nad ydi o'n cynrychioli carfan fawr yn y blaid honno
Dim gobaith caneri gan Starling........