Ffair Haf
Os os oes 'na opera sebon yn y cynulliad ar hyn o bryd y berthynas rhwng Ieuan Wyn Jones a'r Pwyllgor Cyllid yw hwnnw. Teg yw dweud nad yw'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn ffans mawr o'r gweinidog
Ers tro byd mae'r pwyllgor wedi bod yn ceisio cael gafael ar gopi o gyngor swyddogion i'r Gweinidog ynghylch Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Aeth yr hwch trwy'r siop heddiw pan glywodd y pwyllgor y byddai Ieuan yn cyhoeddi'r cyngor bnawn dydd Mercher nesaf. Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Angela Burns, fe fyddai hynny'n rhy hwyr i ganiatáu i'r pwyllgor ei drafod cyn gwyliau'r haf. Er mwyn cynyddu'r pwysau ar Ieuan fe benderfynodd Angela fygwth cynnal cyfarfod yn ystod y gwyliau.
Roedd hynny i gyd yn ystod sesiwn gyhoeddus y pwyllgor. Fe ddechreuodd y sbort go iawn mewn cyfarfod preifat wedyn wrth i gynrychiolwyr Plaid Cymru gyhuddo rhai o aelodau eraill y pwyllgor o hogi cyllyll gwleidyddol. Fe'u cyhuddwyd o geisio tanseilio Ieuan fel gweinidog a'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Erbyn y diwedd yn ôl y son roedd yr aelodau mwy neu yn sgrechain ar ei gilydd. Honnir i un aelod waeddu "It's not this committee that's undermining the government it's your ** Minister".
Oedden nhw mewn gwirionedd yn disgwyl gallu cadw honna'n dawel? Mae gen i sbeis ym mhobman!
SylwadauAnfon sylw
Mae'n hollol warthus bod Aelod Cynulliad yn defnyddio y fath iaith. Dwi'n credu bod yr cyhoedd hefo hawl gwybod pwy oedd yr aelod? Pwy bynnag oedd o neu hi, ddylai nhw ymddiheuro.