Diolch, Syr Les
Dydw i i ddim yn gwneud hyn i fyny!
Roeddwn yn disgwyl dweud fy nweud ar Radio Wales ychydig funudau yn ôl gan wrando ar gyfweliad ac Uchel Gomisiynydd Awstralia ym Mhrydain. Roedd e'n trafod yr hyn oedd yn gyffredin rhwng Cymru ac Awstralia gan gynnwys y nifer o ddefaid gan ychwanegu "we don't do the same things with them perhaps".
Cyfeirio at goginio ar y "barbie" yn hytrach nac yn y ffwrn oedd e, mae'n rhaid. Gobeithio. Efallai.
SylwadauAnfon sylw
Fel un o gyn-drigolion Awstralia yr unig beth y gallaf ddweud yw eu bod yn dweud pethau o'r fath heb 'run malais ag a olygir gan ambell genedl (agosach) arall. Hefyd, wrth gwrs, mae'r Awstraliaid hwythau'n delio â changarŵs mewn ffyrdd na fyddai'n dderbyniol yn y parthau hyn o'r byd!
Digon gwir, ac mae'n debyg bod trigolion Seland Newydd yn falch bod y jocs defaid wedi eu hanelu at rhywun arall y tro hwn!