Diweddaru'r Deg
Yn ôl ym Mis Ionawr sgwennais i ddarn bach o'r enw "Deg i dragwyddoldeb" yn rhestri'r deg sedd yr oeddwn yn credu y byddai'n fwyaf diddorol yn yr etholiad cyffredinol. Fe wnes i sgwennu erthyglau mwy manwl am rai ohonyn nhw. Cewch chi chwilio am rheiny!
Ar ôl hanner blwyddyn mae'n werth achub ar y cyfle i gael cipolwg arall ar y deg a cheisio mesur beth sydd wedi newid a beth sy ddim. Rhain oedd y "deg uchaf" ym Mis Ionawr;
Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont
Pe bawn i'n llunio'r rhestr nawr ni fyddai Arfon, Gogledd Caerdydd na Bro Morgannwg yn cael eu cynnwys. Pe bai'r etholiad yn cael ei gynnal heddiw dwi o'r farn y byddai 'na fwyafrif teilwng iawn i Blaid Cymru yn Arfon a rhai cysurus i'r Ceidwadwyr yn y ddwy sedd arall. Yn eu lle byswn yn cynnwys Delyn, Gwyr a Llanelli ar y rhestr. Roeddwn i'n credu bod yr etholaethau hynny yn ddiogel yn y golofn Lafur. Erbyn hyn dydw i ddim mor sicr.
Mae gen i ambell i beth i ddweud hefyd am rai o'r etholaethau sydd o hyd ar y rhestr. Yn ôl ym Mis Ionawr fe wnes i ddarogan mai brwydr rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru fyddai un Aberconwy ac fy mod yn meddwl mai'r Tori, Guto Bebb, oedd y ffefryn. Rwy'n ddigon parod i gadw'r ffydd o safbwynt hanner cynta'r broffwydoliaeth. Rwy'n llai sicr ynghylch yr ail ran. Mae 'na fwy a mwy o sïon wedi fy nghyrraedd ynghylch rhaniadau mewnol o fewn y blaid Geidwadol yn yr etholaeth. Ar ben hynny mae 'na rai o fewn y blaid yn ganolog sy'n dymuno gweld ei hadnoddau yn cael eu canolbwyntio ar rasys dau geffyl yn erbyn Llafur mewn etholaethau megis Delyn a De Clwyd. Rwyf bellach o'r farn fod gan y Pleidiwr Phil Edwards gystal cyfle a Guto i gipio'r sedd.
Gan fod gwleidyddiaeth Ynys Môn yn ddryslyd i bawb o'r tir mawr fe ges i sgwrs dros beint gyda fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth sy'n gwybod a deall popeth am y fam ynys. Mae Rhun yn gallu rhestri rhesymau i esbonio pam na fydd hwn neu'r llall yn ennill ond yn ei chael hi'n anodd llunio achos cryf dros fuddugoliaeth i unrhyw un o'r ymgeiswyr. Ar ddiwedd y dydd gallai trefniadaeth Plaid Cymru ynghyd a'i phleidlais graidd soled fod yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i ymgeisydd nad yw'n tanio dychymyg yr etholwyr ar hyn o bryd.
SylwadauAnfon sylw
Mae'n anodd darogan Ynys Môn - cwestiwn cwis pwy oedd yr aelod seneddol cyfredol olaf i golli ym Môn?.
Er hynny - canlyniad hollol drenus i Lafur yn etholiadau Ewrop.
Ledi Megan? Wnaeth Keith Best sefyll i lawr os gofiai'n iawn.
Hmm - rwan bod Gogledd Caerdydd wedi cel ei dympio 'does gen ti ddim un sedd ddinesig ymysg y rhai 'diddorol' - sy'n bechod braidd.
Mae lle i ddadlau bod dwy sedd Casnewydd, Gorllewin Abertawe, Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd yn ddigon difyr.
Mae hynny'n wir. Y gwir amdani, am y tro cyntaf i mi gofio, yw nad yw deg yn ddigon. Rwy'n ystyried llunio'r ugain uchaf yn lle!
Vaughan, gobeithio'n fawr y byddwch chi'n llunio rhestr o'r ugain sedd fwya diddorol. Byddai hi o ddiddordeb mawr i fi glywed eich dadansoddiad o sedd Gorllewin Caerdydd a thebygrwydd Llafur o'i dal.
Mae Gorllewin Caerdydd yn hynod ddiddorol... a nid jyst oherwydd fy mod yn byw yno! Fe wnes i gyfeirio rhiwfaint at yr etholaeth mewn post o'r enw "Dinas" ychydig wythnosau yn ol...ond mae'n haeddu post llawn. Hwyrach y bydd 'na gyfle i sgwennu rhywbeth yn ystod dyddiau hesb yr haf.