Rialtwch
Fe wnes i ddewis y teitl "Rialtwch" ar gyfer y gyfres yma am fod y gair, yn ôl rhai, yn deillio o "Rialto", enw cyffredin ar sinemau cynnar.
"Rialto" yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yw'r un yn y llun. Rwy'n cymryd mai "flea-pit" nid "picture palace" yw'r disgrifiad addas ar gyfer y "Rialto" arbennig yma.
Ta beth, dyma ffilmiau'r penwythnos. Fe wnawn ni gychwyn yn Seland Newydd gyda ffilm ddoniol iawn am gymhlethdod israddoldeb y wlad honno tuag at Loegr.
Cymhlethdod israddoldeb yn cael ei leddfu gan obsesiwn am rygbi? Mae hynny'n swnio'n gyfarwydd rhywsut!
Mae 'na ddewis arall wrth gwrs sef llyncu'r stereoteip!
Mae hyd yn oed y Newyddion yn gallu bod yn ddoniol weithiau. Pam ar y ddaear y mae'r gohebydd yma ar RTE wedi ei amgylchynu gan gorachod swrth? Ble mae "Snow White", dywedwch?
Gyda llaw, mae'r sach awgrymiadau braidd yn wag ar hyn o bryd. Danfonwch eich dolenni trwy'r sylwadau.