³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyna ddiwedd ein rhaglenni am heno...

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Rwyf newydd ymddangos ar S4C2 i sgyrsio am yr wythnos wleidyddol o'n blaenau. Hwn oedd y tro olaf i mi wneud hynny. Fe fydd yn ein sianel fach sydd wedi bod yn darlledu gweithgareddau'r cynulliad dros y degawd diwethaf yn dirwyn i ben Ddydd Gwener.

Penderfyniad y ³ÉÈËÂÛ̳ yw hwn ond fe fydd yn galluogi S4C i fwrw ymlaen a'i chynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth i blant. Am bob pensiynwr sy'n hiraethu am Alun Davies a Peter Black rwy'n siŵr y bydd 'na blentyn yn falch o'r cyfle i wylio "Un Tro"!

Mae cau'r sianel yn rhan o'r paratoadau ar gyfer lansio gwasanaethau gwleidyddol ar-lein Cymraeg a Saesneg newydd y ³ÉÈËÂÛ̳ yn yr Hydref. Fe fydd gan Ddemocratiaeth Fyw a Democracy Live eu staff newyddiadurol eu hun ond fe fydd y safleoedd hefyd yn dwyn ynghyd holl gynnyrch gwleidyddol ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru a gwasanaeth archif gyflawn gyda system "llais i destun" arloesol.

Fe fydd 'na ddigon o amser i drafod y datblygiadau hynny yn y man ond am y tro fe wna i godi gwydred bach i ffarwelio a sianel fach y Bae a'i "ffan club" bychan ond ffyddlon.

Diolch am wylio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:11 ar 14 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    I rhai hynny sydd a phlant bach tydi rhagor o arlwy plant ddim bod tro yn beth da yn arbennig ar rhai adegau. Mae rhaglenni yn gallu bod yn rhwystr. Er bod yr arlwy yn dda mae yn gallu bod yn anodd llusgo'r plant o'r teledu.

  • 2. Am 14:14 ar 16 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Cytuno monwynsyn. Er, dwi'n sylwi gyda'n blentyn ni, bod wir angen rhagor o ddarpariaeth a dewisiadau yn y Gymraeg er mwyn cystadlu gyda'r sianelau Saesneg fel CBeebies ayb.

    Gyda llaw, beth yw'r system llais i destun arloesol? Ydi hyn yn golygu bod y ³ÉÈËÂÛ̳ wedi datblygu system llais i destun ('speech recognition') ar gyfer y Gymraeg?? Anodd coelio!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.