Iaith Gwaith
Yn ôl yn nyddiau cynnar y cynulliad roedd Cymdeithas yr Iaith yn monitro'r defnydd o Gymraeg yn siambr y Cynulliad mewn ymdrech i gymell aelodau i ddefnyddio'r iaith. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi gwneud ymchwil o'r fath yn ddiweddar ond fy nheimlad i yw bod 'na fwy o Gymraeg yn nhrafodaethau'r trydydd cynulliad nac yn y ddau flaenorol.
Yn rhannol mae'r newid oherwydd bod gweinidogion Plaid Cymru yn tueddu gwneud datganiadau yn Gymraeg. Mae hynny'n gosod y cywair ieithyddol ar gyfer y ddadl sy'n dilyn. Mae presenoldeb nifer o aelodau sydd byth, neu bron byth, yn defnyddio Saesneg, pobol fel Gareth Jones, Nerys Evans a Paul Davies hefyd yn gwneud gwahaniaeth.
Heddiw roedd rhan helaeth o sesiwn gwestiynau Rhodri Morgan yn Gymraeg er bod un cwestiwn arbennig wedi achosi tipyn o grafu pen.
Poeni oedd Eleanor Burnham ynghylch y "perfformiad amrywiol brenhinol". Beth ar y ddaear oedd hynny'n golygu? Ai cyfeirio at fywyd carwriaethol y Tywysog Harri oedd Eleanor neu dreuliau Dug Efrog, efallai? Y naill na'r llall. Cyfeirio at y "Royal Variety Performance" oedd hi. Eleanor annwyl, mae croeso i ti fenthyg Geiriadur yr Academi unrhyw bryd!
Yn ddiweddarach wrth amlinellu'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf cafwyd rhagflas o beth fydd yn y Mesur Iaith arfethedig. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r LCO iaith o hyd yn ymlwybro'n araf tuag at y llyfr statud. Serch hynny mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn ddigon hyderus yn ei gylch i gynnwys y mesur ei hun yn y rhaglen waith.
Yn ôl Rhodri fe fydd y mesur yn cynnwys sefydlu'r swydd o gomisiynydd iaith , statws swyddogol i'r Gymraeg a'r Saesneg ac ymestyn yr hawl i gael gwasanaeth Cymraeg gan gyrff "o fath cyhoeddus". Ystyr "o fath cyhoeddus" sydd wrth wraidd y trafferthion gyda'r LCO, wrth gwrs.
SylwadauAnfon sylw
O diar - taswn i'n cyfieithu hwnnw felly dwi'n siwr y byddwn i'n cael y sac!!!