Adda, pa le yr wyt ti?
Onid yw'r datganiad yma gan Adam Price yn mynd dros ben llestri braidd?
"Five years ago this Summer Adam Price MP launched his impeachment campaign. Now the Plaid MP is launching an equally audacious move to try and shift the party political consensus that has so far supported the UK's continuing involvement in Afghanistan."
Audacious!!! Wow!!! Tybed beth yw'r symudiad beiddgar a dewr y mae Adam wedi ei gymryd. Arhoswch eiliad fe wna i ddarllen y datganiad i ganfod y cynllun clyfar. Dyma fe.
1. Cyhoeddi cynnig bore cynnar (un o'r cynnigion hynny sydd byth yn cael ei drafod) yn galw am newid polsi.
2. Ysgrifennu at aelodau seneddol eraill yn gofyn iddyn nhw gefnogi'r cynnig.
Oce. Yr unig gwestiwn sy gen i yw pam y mae Adam wedi hela datganiad yn y lle cyntaf? Ydy Martin Shipton ar ei wyliau?
Diweddariad
Ymddiheuriadau fy mod wedi torri embargo ar y stori yma trwy gamgymeriad. Doedd y datganiad ddim i fod i gael ei gyhoeddi tan hanner nos. Mae parchu pethau fel 'na yn bwysig yn y job yma.
Gyda llaw gwneud yn ysgafn o'r gair "audacious" oeddwn i. Rwy'n llwyr ymwybodol bod gwleidyddion fel Adam ( a Paul Flynn) yn teimlo'n rhwystredig iawn bod cyn lleied o drafod ynghylch y sefyllfa yn Afghanistan. Er tegwch felly gallwch ddarllen yr hyn oedd gan Adam i ddweud ar ei ei hun ddeuddydd yn ôl.
Cofiwch, gan fod na fawr ddim yn y datganiad nad oedd ar ei flog yn barod (ac eithrio'r gair "audacious") dydw i ddim cweit yn deall y rheswm dros yr embargo yn y lle cyntaf.
SylwadauAnfon sylw
Vaughan ydych chi'n credi ma bai ar newyddidurwyr hefyd y fod does dim trafodaeth am y rhyfel. Dwin gweld pam da chi wedi creu blog ysgafn yma ond na fydd blog i trafod y pwyntiau am pam da ni dal yn ymladd yn syniad hefyd? Yn bersonol, gyda teulu yn Afghanistan dwi ddim yn meddwl ma'r rhyfel yn pwnc hwylus.
Yr ateb syml i'r cwestiwn yw fy mod yn credu bod 'na fai ar y cyfryngau am adlewyrchu consensws rhyfel da/rhyfel drwg ynghylch Afghanistan ac Irac. Fe wna i sgwennu rhywbeth ynghylch y peth ar ol i mi hel meddyliau.
Cytuno Vaughan. I fi does yna ddim shwt beth a rhyfel da.