Ailgylchu Hydref 2008
Fe fyddwch yn falch i glywed ein bod bron wedi cyrraedd diwedd prydiau parod Mis Awst. Fe fydd y gwasanaeth "a la carte" yn ail-gychwyn wythnos nesaf.
Wrth ddewis erthygl o Hydref 2008 fe wnes i ystyried un oedd yn cychwyn gyda'r geiriau hyn "Ydy'r Gweinidog Treftadaeth yn dechrau colli amynedd ynglÅ·n ag arafwch y broses o wireddu'r LCO iaith?". Fe benderfynais y byddai ail-gyhoeddi honna yn rhy boenus!
Dyma bost felly am ffrae fach lenyddol oedd wedi cael fawr o sylw ar y pryd ond wnaeth droi'n dipyn i sgandal.
Llyfr Mawr y Plant
Dydw i ddim yn meddwl bod "Y Dinesydd", papur bro Caerdydd, yn bapur sy'n cael sgŵps yn aml. Am wn i mae'r Dinesydd wedi bod ar y blaen ynghylch rhyw ffrwgwd addysg Gymraeg neu helyntion parcio Capel y Tabernacl o bryd i gilydd ond mae'n debyg bod yr achosion hynny'n ddigon prin.
Ond mae hyd yn oed y gwas bach yn haeddu ei geiniog weithiau a'r Dinesydd oedd y cyhoeddiad cyntaf i dynnu sylw at gynlluniau Cyngor Caerdydd i werthu cyfrolau a dogfennau gwerthfawr o gasgliad llyfrgell y ddinas. Nododd y papur fod Cylch Llyfryddol Caerdydd (corff chwyldroadol a pheryglus os buodd un erioed) wedi mynegi pryder.
Prynwyd y llyfrau yn oes aur Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas pan oedd Caerdydd ac Aberystwyth yn cystadlu a'i gilydd i fod yn gartref i Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn y diwedd rhannwyd y wobr wrth gwrs. I Aber aeth y Llyfrgell a phwdodd bwrdeiswyr Caerdydd. Cadwodd y cyngor ei afael ar ei drysorau printiedig gan adael i egin lyfrgell Aberystwyth gychwyn ei chasgliad o'r cychwyn.
Mae'n ymddangos erbyn hyn y gallai nifer o'r cyfrolau diweddu yn y Llyfrgell Gen. wedi'r cyfan. Dycnwch y criw bach o ymgyrchwyr sydd i ddiolch am hynny. Cytunwyd heddiw y bydd pwyllgor o fawrion y byd llyfryddol yn penderfynu pa gyfrolau sy'n rhaid eu "hachub i'r genedl" a pha rai y gall Caerdydd eu gwerthu.
Mae gen i dipyn o gydymdeimlad a Nigel Howells, y Democrat Rhyddfrydol hawddgar a dymunol sy'n gyfrifol am lyfrgelloedd y Brifddinas. Wedi'r cyfan doedd y cyngor ddim yn bwriadu gwerthu cyfrolau oedd yn berthnasol i Gymru nac ychwaith cyfrolau yr oedd galw mawr amdanynt gan ddefnyddwyr y Llyfrgell Ganolog. Doedd na erioed unrhyw beryg y byddai Canu Aneirin nac unrhyw un o drysorau Cymreig eraill Cyngor Caerdydd yn diweddu ar silff lyfrau rhyw brifysgol yn Texas neu California!
Yn y cyfamser peidied neb a meddwl bod plwyfoldeb mewnblyg y frwydr wreiddiol rhwng Caerdydd ac Aber wedi diflannu o'n tir. Ddydd Llun fe gyflwynodd Leslie Griffiths AC Wrecsam ddatganiad barn wedi ei arwyddo gan hanner dwsin o aelodau cynulliad Llafur a Cheidwadol.
Dyma mae'r datganiad yn ei ddweud;
Mae'r Cynulliad hwn yn mynegi ei bryder difrifol a pharhaus ynghylch cynlluniau gan Gyngor Dinas Caerdydd i werthu mewn arwerthiant rai o destunau hanesyddol gorau Cymru, er mwyn lliniaru effeithiau anallu ariannol yr awdurdod; yn cydnabod y gwrthwynebiad ar hyd a lled y wlad i agwedd ansensitif a diddiwylliant y Cyngor at ofalu am arteffactau pwysig o hanes ein gwlad; ac yn galw ar y Cyngor i roi'r gorau ar unwaith i unrhyw gynlluniau i arwerthu'r llyfrau, nes bod menter Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu eu dyfodol wedi cael ei harchwilio'n llawn.
O fewn dim daeth gwelliant gan Jenny Randerson;
Dileu popeth ar ôl "Mae'r Cynulliad hwn" a rhoi yn ei le:
"Yn credu y dylai gwleidyddion Wrecsam roi'r gorau i geisio atal Cyngor Caerdydd rhag buddsoddi mewn cyfleusterau llyfrgell yn rhai o ardaloedd tlotaf y ddinas, ac yn credu bod ymdrechion o'r fath yn profi'r safbwynt cywilyddus mai dim ond rhai pobl ddylai allu mwynhau treftadaeth Cymru yn hytrach na thrwch y boblogaeth"
Neu mewn geiriau eraill "cadwa dy drwyn mas o'n busnes ni y gog yffarn!". Mae Jenny wrth gwrs yn cynrychioli Canol Caerdydd. Yr unig broblem yw bod Lorraine Barrett yn un o'r aelodau wnaeth arwyddo'r cynnig gwreiddiol- a lle mae ei hetholaeth hi, dywedwch?