Aeth fy nwy fil yn un ddafad
Dyw'r ffaith bod stori wedi ei hadrodd a'i hailadrodd hyd syrffed ddim bob tro yn ei gwneud yn llai difyr na'n llai dadlennol. Rwy'n sicr eich bod yn gyfarwydd â hanes achub lein reilffordd y Canolbarth gan ei bod yng ngeiriau George Thomas yn "rhedeg trwy bum etholaeth ymylol". Mae'n anodd credu nad yw ffactorau tebyg ym meddyliau gwleidyddion wrth ystyried y cynlluniau i drydaneiddio'r lein rheilffordd o Lundain i Abertawe.
Dydw i ddim wedi eu cyfri nhw ond mae'r lein yn rhedeg trwy oddeutu ugain o etholaethau ymylol ac yn gwasanaethu llwyth o rai eraill. Cymerwch gip ar y rhestr o seddi targed y Ceidwadwyr a sylwch ar rai o'r enwau. Cheltenham, Stroud, Gogledd Orllewin Bryste, Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Gogledd Swindon ayb ayb. Mae'r peth bron yn ddiddiwedd.
Cyhoeddwyd y cynllun i drydaneiddio'r lein gan Gordon Brown yn ystod ymweliad y cabinet a Chaerdydd yn ôl ym Mis Gorffennaf. Fe fyddai'n costio biliwn o bunnau i wireddu ac mae'n anodd peidio credu nad oedd y cyhoeddiad yn drap wedi ei osod yn fwriadol ar gyfer y Ceidwadwyr.
Gyda'r Ceidwadwyr yn seilio eu hymgyrch etholiad ar yr angen i gwtogi ar wariant cyhoeddus a llehai dyled y wlad mae'n ddigon hawdd i Lafur sbino y byddai'r cynllun mewn peryg be bai'r Toriaid yn ffurfio llywdraeth.
Lein swyddogol y Ceidwadwyr yw eu bod yn croesawu'r cynllun ond yn poeni ynghylch o ble y bydd yr arian yn dod. Mae'n lein glyfar sy'n osgoi dweud p'un ai y byddai'r blaid yn bwrw ymlaen a'r cynllun ai peidio.
Heddiw cyhoeddodd "Network Rail" asesiad terfynol o'r prosiect. Yn ol yr asesiad fe byddai'r cynllun yn talu am ei hun o fewn oes y trenau newydd. Mae hynny'n fendith i'r wrthblaid. Mae'r ffaith bod yr achos busnes yn gadarn yn gwneud hi'n llawer haws i'r Ceidwadwyr gefnogi'r cynllun fel "buddsoddiad hanfodol" yn hytrach na gorwariant afradlon.
Yn wyneb hynny ac o gofio'r holl seddi ymylol yna fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai'r blaid yn cadarnhau y bydd y cynllun yn cael ei wireddu o dan lywodraeth Geidwadol. Fe fyddai hynny'n newyddion da iawn i Gymru ac yn newyddion da iawn i deithwyr. Ar y llaw arall fe fyddai'n newyddion drwg i Lafur.
*Mae ambell un yn y gwaith wedi gofyn ynghylch ystyr y pennawd. Mae'n ran o hen bennill. Mae Google yn awgrymu nad yw'n gyfarwydd. Mae hynny'n syndod i mi! Mae'r un mor gyfarwydd ac "nid aur yw popeth melyn" i fi. Roeddwn yn meddwl ei fod yn bennill sy'n gyfarwydd i bawb. Ydw i'n anghywir?.
"Bum yn byw yn gynnil,gynnil,
Aeth un ddafad i mi'n ddwy fil,
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth fy nwy fil yn un ddafad"
SylwadauAnfon sylw
Mae Cheltenham a Stroud yn ran o'r Great Western Main Line, ond maen nhw ar gangen sy ddim yn ran o'r cynllun trydaneiddio diweddara.
Ym mha ffordd byddai trydaneiddio'r lein rheilffordd o Lundain i Abertawe un newyddion "da iawn" i Gymru?
Trwy dorri'r amser teithio...trwy ddenu buddsoddiad a swyddi... trwy leihau ein hallbwn carbon.. trwy cynnig gwaith i adeiladwyr? Ym mha ffordd y mae'n newyddion gwael?
Dwi'n cofio'r bennill yn cael ei defnyddio i wrthgyferbynnu dau gyfaill coleg i mi. Un yn rafin enbyd, a'r llall yn gybydd llwyr .
Tua diwedd y 70au oedd hyn.Ni wn o lle y daw, foddbynnag.
Torri'r amser teithio? 1.3 biliwn I arbedu 7 munud o Abertawe I Lundain! Trwy ddefnyddio llai o Garbon? - Os nad oes digon o drydan cynhaladwy ar gael fe fydd y lein yn cynhyrchu mwy carbon (llosgi glo neu nwy I greu trydan yn llai effeithlon na defnyddio tanwydd unwaith ar dren...)
Amcangryfir cost o drydaneiddio elfen De Cymru o'r GWR yn 300 miliwn. Gyda 300 miliwn buasai'n bosib I agor llinellau megis Aberdar I Gastell Nedd, Caerfyrddin I Aberystwyth a Merthyr I Aberhonddu. Buddsoddiad mwy dylanwadol ar economi Cymru yn fy nhyb I.
Am 21:28 ar 28 Hydref 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:
Trwy dorri'r amser teithio...trwy ddenu buddsoddiad a swyddi... trwy leihau ein hallbwn carbon.. trwy cynnig gwaith i adeiladwyr? Ym mha ffordd y mae'n newyddion gwael?
Yn gwmws....1.3 billiwn i arbed minudau!
Felly, oherwydd y bydd y trenau yn arbed rhai munudau wrth gwneud y daith....byddwn yn elwa o fuddsoddiad a swyddi????
Beth petai'r trydaneiddio yn torri'r daith gymaint ag awr sydd wrth-gwrs ddim yn mynd i ddigwydd.....byddai de Cymru yn dod yn rhan o'r 'commuter belt' i Lundain. Byddai hynny yn beth braf? Paham yw Llundian fel petai yn ganolbwynt y bydysawd i gymaint o bobl? Beth am geisio gwneud pethau yng Nghymru sydd ddim yn cymeryd i ystyriaeth cyfleustra Cymru i Lundain.....y lle dryd, drewllyd, llawn problemau hwnnw.
Beth am brisiau tai? Yokels Caerdydd ac Abertawe yn gorfod cystadlu gyda pobl ar 'London weighting'?
Os yw gwaith yn bwysig....felly gad i'r adeiladwyr adailadu rhailfford o'r de i'r gogledd o fewn ffiniau Cymru.
Gallem fynd ymlaen ac ymlaen.......
Clywais rhywun yn ail adrodd geiriau Harri Webb sy'n berthnasol....
Dwi ddim yn hollol sicr o'r geiriau ond dyma beth dwi'n cofio....
"What Wales need the most
Is not an eastern border....but an eastern coast"
Know what I mean? ;-)