³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar y llaw arall, Syr Emyr

Vaughan Roderick | 15:54, Dydd Mawrth, 27 Hydref 2009

_44802941_44631530.jpgUn rhan o arolwg YouGov sydd heb dderbyn rhyw lawer o sylw yw'r rhannau yn ymwneud a chynyddu pwerau'r cynulliad. Mae'n bosib bod hynny oherwydd bod arolygon eraill wedi mynd dros yr un tir yn gymharol ddiweddar. Rheswm arall yw bod y negeseuon yn arolwg YouGov yn weddol gymysg.

Mae'r arolwg yn awgrymu i ddechrau bod pobol Cymru rili, rili eisiau refferndwm gyda 63% o blaid cynnal un a dim ond 20% yn erbyn.

Y broblem yw bod holi ynghylch refferendwm ynglÅ·n ag unrhyw bwnc fel gofyn i bobol ydyn nhw'n gwrthwynebu pechod. Ymateb y rhan fwyaf o bobol yw teimlo y dylid cynnal pleidlais ar bwnc os oes 'na bobol eraill yn dymuno cael un. Dyw cefnogi cynnal pleidlais ddim yn gyfystyr a bwriad i bleidleisio'r naill ffordd neu'r llall neu hyd yn oed pleidleisio o gwbwl. Gellir gweld hynny o'r cwestiwn yma.

"Os oedd 'na refferendwm yfory ynghylch rhoi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad sut fyddech chi'n pleidleisio?"

Ie; 42
Na;37
Ymatal/ansicr 21%

Ond mae 'na broblem gyda'r ateb yna er bod cwestiwn YouGov yn gyfan gwbwl eglur. Mae 'na gwestiwn arall sy'n gofyn mwy neu lai'r un peth ac yn derbyn ateb gwahanol iawn.

"Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cynulliad gael yr un pwerau a Senedd yr Alban?"

Cytuno/Cytuno'n gryf; 63%
Anghytuno/Anghytuno'n gryf;28%
Ansicr; 9%

Beth sy'n mynd ymlaen fan hyn? Yr unig esboniad fedra'i gynnig yw nad yw pawb yn deall ystyr y cwestiwn fyddai'n cael ei ofyn mewn refferndwm. Os felly fe fyddai rhyw un yn disgwyl i'r gefnogaeth i'r ochor "Ie" gynyddu yn ystod ymgyrch refferendwm, yn enwedig o ystyried yr atebion i un arall o gwestiynau YouGov.

"Pa effaith yr ydych chi'n credu y mae sefydlu'r cynulliad wedi cael ar y ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu?"

Wedi gwella ; 55%
Dim gwahaniaeth; 24%
Wedi gwaethygu; 10%
Ansicr 11%

Ar Dachwedd 18fed fe fydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cyflwyno ei argymhellion. Y disgwyl yw y bydd Syr Emyr yn argymell cynnal refferendwm cyn gynted a bo modd. Does dim byd yn y pôl yma i newid ei feddwl.

Mae'r canlyniadau llawn yn .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:42 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Mae'n bosib fod y rhai a holwyd wedi deall yn iawn, ac yn cefnogi pwerau Albanaidd, gan eu bod yn gryfach na "phwerau llawn" bondigrybwyll Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

    Yn yr Alban (a GI), y model "pwerau wedi eu cadw nol" (Reserved powers) a ddefnyddir, lle mae POB DIM wedi ei ddatganoli oni bai bod y Ddeddf yn deud ei fod wedi ei gadw nol i Senedd Llundain. Yng Nghymru'r "pwerau llawn", mae'r gwrthwyneb yn wir. Does dim wedi ei ddatganoli oni bai bod y Ddeddf yn rhoi'r pwer hwnnw.

    Neu efallai hyd yn oed....

    fod rhai pobol wedi cymryd pwerau llawn i fod yn gyfystyr ac annibyniaeth

  • 2. Am 09:20 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Elin:

    Ac wrth gwrs nid mater "pwerau llawn" fydd dan sylw yn y refferendwm - ond pwerau cynradd yn yr 20 o feysydd sydd wedi'u datganoli yn unig. Mae geiriad y cwestiwn yn mynd i fod yn gyfangwbl allweddol.

  • 3. Am 09:36 ar 28 Hydref 2009, ysgrifennodd Pads:

    Emyr, dw i'n meddwl fod ti'n iawn.

    Beth yw ystyr "Pwerau Deddfu Llawn" ond "Deddfu Dros Bobpeth"?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.