Y ddinas fawr ddrwg...
Fe wnes i addo sgwennu gair y dydd o'r blaen am y rhagolygon ar gyfer etholaethau Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol. Dydw i ddim am ail-adrodd rhai o'r pwyntiau rwyf wedi gwneud o'r blaen yn y post yma. Mae gan bost ynghylch Gorllewin Caerdydd sy'n werth ei ddarllen hefyd.
Cofiwch fod unrhyw beth sy gen i ddweud fan hyn yn ddibynnol ar yr hinsawdd wleidyddol. Fe fyddai newid yn yr hinsawdd Brydeinig, cynnydd yn y gefnogaeth i Lafur, er enghraifft, yn saff o gael effaith ar wleidyddiaeth y Brifddinas.
Fe wna i gychwyn gyda'r un sedd yng Nghaerdydd rwy'n sicr na fydd hi'n newid dwylo. Yn ddigon rhyfedd mae honno'n sedd sydd wedi ei chipio dwywaith yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf sef Canol Caerdydd. Er mai dim ond yn 2005 y cafodd Jenny Willott ei hethol mae ei gafael ar yr etholaeth yn gadarn. Does dim modd yn y byd yn yr hinsawdd bresennol i Lafur ennill hi yn ôl ac o gofio bod pleidlais y Ceidwadwyr (deiliaid y sedd tan 1992) wedi gostwng i lai na 10% yn 2005 dydyn nhw ddim yn fygythiad chwaith. Mae'n rhyfedd o beth bod sedd a chipiwyd pum mlynedd yn ôl bellach ymhlith seddi mwyaf diogel y Democratiaid Rhyddfrydol trwy Brydain.
Os ydy Canol Caerdydd yn saff o beidio newid dwylo mae Gogledd Caerdydd yn saff o wneud. 1,146 oedd mwyafrif Julie Morgan yn 2005. Ers hynny mae'r blaid Lafur wedi colli pob un sedd cyngor oedd ganddi yn yr etholaeth. Mae Julie'n boblogaidd ond mae gan y Ceidwadwyr yr ymgeisydd perffaith yn Jonathan Evans, Tori peniog, cymhedrol ac adnabyddus sy'n ffit berffaith i'r etholaeth.
Mae hynny'n dod a ni at ddwy etholaeth sydd, yn fy marn i, ymhlith y mwyaf diddorol yng Nghymru.
Mwngrel o etholaeth yw De Caerdydd a Phenarth gan gyfuno rhai o ardaloedd tlotaf y brifddinas, llwyth o fflatiau sy'n gwerth llai na'u morgeisi yn y Bae a Phenarth y faestref gefnog sy'n esgus bod yn dref. Dyma ganlyniad 2005.
Llafur 17,447 (47.3%)
Ceidwadwyr 8,210 (22.2%)
Dem. Rhydd. 7,529 (20.4%)
Plaid Cymru 2,023 (5.5%)
Chwi welwch y broblem y syth. Mae Llafur o dan 50% syn golygu bod ei gafael ar y sedd yn fregus. Y broblem yw nad yw'r Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sefydlu ei hun fel y prif fygythiad. Mae'r Torïaid yn gryf ym Mhenarth a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd. Mae hon yn sedd y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei thargedi. Gall ei thrigolion ddisgwyl llwyth o daflenni Focus a "bar charts" felly. Y broblem yw y bydd gan y Ceidwadwyr eu graff eu hun yn seiliedig ar ganlyniad etholiad Ewrop.
Ceidwadwyr; 4,329
Llafur; 4,191
Dem. Rhydd. 2,657
Plaid Cymru 2,186
Yn bersonol rwy'n meddwl bod y rhaniad yn y bleidlais wrth lafur yn golygu bod Alun Michael yn saff. Er bod Llafur wedi ennill y bleidlais Ewropeaidd yng Ngorllewin Caerdydd dydw ddim mor sicr ynghylch Kevin Brennan.
Mae ein cyfaill o Rachub wedi gwneud y gwaith ystadgol felly gwna i ddim palu trwy'r holl ganlyniadau. Y pwynt i gofio yw bod hon yn etholaeth lle mae Plaid Cymru yn bresenoldeb pwysig ar lefel cyngor a chynulliad. Hi yw'r blaid fwyaf o safbwynt nifer ei chynghorwyr a gallai 2011 fod yn ras tri cheffyl go iawn. Yn realistig ras dau geffyl rhwng y Torïaid a Llafur yw 2010 ac mae'r bloc yna o bleidleiswyr Plaid Cymru yn cynnig achubiaeth a phroblem i Kevin Brennan.
Fe fydd Kevin yn saff os ydy e'n llwyddo i ddarbwyllo cefnogwyr Plaid Cymru i fwrw pleidlais dactegol drosto. Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg mae'n boblogaidd ymhlith y Cymry Cymraeg ond dyw Rhodri Morgan a chynghorwyr Llafur lleol ddim wedi gwneud unrhyw ffafrau a fe.
Mae 'na ffrae wenwynig ynghylch ad-drefnu ysgolion yng Ngorllewin Caerdydd cynllun a fyddai'n ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn sylweddol. Mae Rhodri a'r cynghorwyr wedi dewis gwrthwynebu rhannau o'r cynllun hwnnw gan elyniaethu'r union bleidleiswyr a allai gynnig polisi yswiriant i Kevin Brennan.
Os oeddwn i yn ei sgidiau fe fyddwn yn gobeithio y bydd Jane Hutt yn rhoi rhwydd hynt i'r cynlluniau cyn gynted a bo modd.