Siarad Plaen
Mae rhywun yn cael dweud pethau ar ôl gadael swydd nad oedd modd eu dweud tra'n was cyflog. Diddorol yw gweld bod Judith Isherwood, sy'n gadael y Ganolfan Mileniwm ar ôl ei llywio o'r cychwyn, wedi dewis gwneud hynny. Heb os fe wnaeth Judith jobyn ardderchog ac mae'n gadael gyda phawb yn canu ei chlodydd.
Erbyn hyn mae'n bennaeth canolfan celfyddydau Melbourne, dinas eu mebyd. Mewn cyfweliad gyda mae'n cyfaddef am y tro cyntaf pa mor anodd oedd sefydlu'r ganolfan yng Nghaerdydd gan ddweud hyn;
''On the ground, the politics were brutal. There were huge divisions about the investment of £106 million on a cultural facility the likes of which Wales had never seen. There were those who actually wanted to see us fail.''
At bwy mae'n cyfeirio, tybed?
SylwadauAnfon sylw
O twt, hanner stori yw hon Vaughan! Rho rhyw glem i ni i ba gyfeiriad y dylem troi ein golygon. Dere, pwy yn ei iawn bwyll fydde eisiau i Ganolfan y Mileniwm i fethu!
At weinidog diwylliant Llafur y mae Judith yn credu wnaeth anwybyddu problemau ariannol y ganolfan y mae'r fwled wedi ei hanelu, rwy'n tybio. Nid fy mod i, o reidrwydd, yn cytuno.