Rhwydweithio
Mae nifer o bobol wedi gofyn i mi beth sydd wedi digwydd i Faes-e. Dydw i ddim yn deall pam maen nhw'n gofyn i fi ond o'r hyn dw i'n ddeall mae'r maes yn symud gweinydd ac fe fydd yn dychwelyd maes o law.
Os oes unrhyw un yn gwbod mwy mae croeso i chi adael sylwad!
Yn absenoldeb y "maes" dyma eisteddfod bentref o ddolenni diddorol neu efallai y dylwn i ddweud "Mod" o ddolenni!
HeraldScotland
Peryglon Teledu byw...
Australian
Dydw i erioed wedi deall pam y mae pobol yn fodlon talu ffortiwn am drowsus neilon neu bâr o daps oherwydd bod 'na dair streipen ar eu hochrau. Ar y llaw arall mae stori'r ddau frawd wnaeth sefydlu Adidas a Puma yn rhyfedd ar y naw.
Guardian
Leader
Ar ei flog mae Glyn Davies yn cwyno fy mod wedi rhoi'r gorau i gyhoeddi rhai o berlau lembit o'r Daily Sport. Oce, Glyn jyst i ti.
THERE was a stir in Cornwall this week when anti-student graffiti appeared. Apparently, it was scrawled by a group called the Cornish Republican Army who want Cornwall to be independent from England and don't like new flats being given to students, instead of local folk. No one knows if the Cornish Republican Army -- or CRA -- has any real support, or even exists! Some claim CRA members get training and funds from other terrorist groups, others reckon it's just a clever hoax and their boss might as well be the Loch Ness monster. I'm not keen on Cornish independence -- it would make scrumpy cider a foreign beverage. And it would mean Sport stunna Marlena Lewis from Cornwall would need a passport to get her Cornish pasties into this paper!