³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trwy yr afon yn droednoeth

Vaughan Roderick | 15:34, Dydd Mercher, 21 Hydref 2009

_44613805_whisky4_226.jpgMae Marc Phillips wedi penderfynu ymgeisio am enwebiad seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Doedd ei enw ddim wedi croesi fy meddwl ond fel un sydd wedi sefyll dwywaith yn Llanelli byswn i'n tybio bod siawns go lew da fe.

Ar hyn o bryd mae Marc yn bennaeth Cymreig Plant Mewn Angen y ³ÉÈËÂÛ̳ ac yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gonfensiwn Syr Emyr. Mae Pudsey a Syr Emyr ill dau wedi addo aros yn gyfan gwbwl niwtral yn ystod yr ornest!

Roedd 'na gyfnod lle'r oedd Plaid Cymru yn cael ei gwatwar fel "Plaid Gwynedd". Hwyrach y byddai "Plaid Cynon" yn fwy addas y dyddiau hyn.

Yn y cwm hwnnw mae gwreiddiau Marc. Mae cyn brif weithredwr y blaid, Dafydd Trystan o'r un ardal. O Benderyn cartref y chwisgi y mae fe'n dod. Yng Nghwmaman ac Aberdâr y magwyd Rhuanedd Richards a Simon Thomas, dau sbad Plaid Cymru. Mae Morgan Lloyd ei phennaeth cyfathrebu yn dod o Lwydcoed.

Faint o bobol Cwm Cynon sy'n uchel yn y blaid? "Gormod" oedd ateb gwatwarus Ieuan!

Mae 'na ambell i un wedi llwyddo i ddianc o grafangau'r maffia. Mae Alun Davies, wnaeth sefyll i'r blaid yn y cwm yn un. Mae un arall i'w weld yn eistedd rhwng Rhuanedd a Dafydd yn eu llun ysgol. Ioan Gruffudd yw hwnnw. Ydy e'n gwybod cymaint mae fe'n colli mas? Beth sydd gan Hollywood i gynnig sy'n well na desg yn NhÅ· Gwynfor neu TÅ· Hywel?

*ON; Mae rhywun newydd fy atgoffa mae un o gwm Cynon yw Syr Emyr hefyd! Mae 'na rywbeth yn y dŵr mae'n rhaid!

**OON; Mae rhai wedi gofyn am y pennawd. Llinell gyntaf "Cwm Cynon yn yr Haf" gan Hergest yw e. Fe safodd y cyfansoddwyr Delwyn Sion fel ymgeisydd i Blaid Cymru... Digon yw Digon!

***OOON; Oce, Gerald Holtham hefyd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:22 ar 21 Hydref 2009, ysgrifennodd dave lea:

    Mae'n ffaith hefyd fod Noddy Holder wedi treulio peth o'i blentyndod yn Aberdar cyn ymuno efo Slade - mae'i deyrnged i'r cwm yn amlwg ar "Cynon Feel The Noize"

  • 2. Am 16:51 ar 21 Hydref 2009, ysgrifennodd Marc Phillips:

    Lle braf iawn yw Cwm Cynon. Yn wir aeth Syr Emyr a minnau i'r un ysgol gynradd - Caegarw - ond nid ar yr un pryd! Ond cyn i ni symud i Gwm Cynon mae gwreiddiau fy nheulu yn mynd yn ôl yn ddi-dor am o leiaf 250 o flynyddoedd yn naear ffrwythlon Sir Gâr.

  • 3. Am 16:58 ar 21 Hydref 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Mae'r cysylltiad y blaid a'r Cwm yn mynd nol i'r dauddegau. Ysgrifennodd Saunders Lewis at Kate Roberts gan ddweud fod Capel Bethesda Abercwmboi, sydd rhwng Aberpennar ac Aberdar, yn fan pwysig yn hanes sefydlu'r blaid.

  • 4. Am 17:09 ar 21 Hydref 2009, ysgrifennodd Helen Mary Jones:

    Rwy'n meddwl ta un o Lanelli oedd Syr Emyr.
    Helen Mary

  • 5. Am 07:34 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Penderyn:

    Mae sylw Rhys yn hynod amserol. Ddoe bu cyfeillion yng Nghwm Cynon yn cofio'n dda am Gwynfa Jones a fu farw ychydig ddyddiau yn ol. Mi ymunodd gyda'r Blaid yn y Cwm (a'i frawd Cled) ym 1946 ac fe fu'n yn aelod oes o Blaid Cymru a Chapel Bethesda Abercwmboi!

  • 6. Am 08:24 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd gadeloski:

    Oes gan sylw Marc Phillips unrhyw gysylltiad ac ymddeoliad Adam Price?

  • 7. Am 12:14 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Trojan Cymru:

    Y problem sydd gyda Marc yw bod gyda fe hanes o golli etholiadau mewnol y Blaid i gwleidyddion ifainc, brwdfrydig a thalentog fel Adam Price a Dyfan Jones. Sgwn i os bydd hanes yn ail adrodd.

    Yn Nhwyrain Caerfyrddin a Dinefwr bydde Marc yn cael ei weld, yn ogystal a Angharad Mair, fel ymgeisydd parasiwt - gweithred o hunanladdiad gwleidyddol gan y Blaid leol.

  • 8. Am 12:24 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Richard Wyn Jones:

    Mae'n siwr ei fod yn hen fel pechod, ond roedd o'n newydd i mi. Felly Dave Lea, dim ond i ti gael gwybod, rwyt ti'n gyfrifol am wneud i mi chwerthin more galed nes i mi boeri te dros fy nghyfrifiadur druan...

  • 9. Am 17:07 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ac wrth gwrs "Evans y Black Hole" yn CERN...

  • 10. Am 17:39 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Efallai bod gan Gwm Cynon fwy o enwogion na Gwlad Belg!

  • 11. Am 18:19 ar 22 Hydref 2009, ysgrifennodd Seimon:

    "cynon feel the noize", mae fe hen fel pechod, jyst fel y joc na am "Sign-on Valley" yn y 80au, a fydde'n ddigon sal oni bai imi gofio ishta drwy araith gan Tam Dalyell yn Aberaman Institute ystod streic y glowr ac yntau yn son drwy'r amser am bobl "signon valley"! Efallai hwnnw bwrswadiodd fi nad yn Llunden roedd deall problemau Cymru...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.