Trioedd Ynysybwl
Mae Blog Menai wedi nodi'r ffenomen ryfedd ar flogiau Cymraeg mai'n aml iawn y deunydd talcen slip sy'n denu'r sylw. Mae'r stwff dadansoddol, sy'n gallu cymryd llwyth o waith paratoi, ar y llaw arall yn aml yn denu cymaint o sylw a'r ffôn yna'n canu yn swyddfa gwynion Carlsberg.
Enghraifft o hynny yw post ddoe ynghylch Plaid Cymru a Chwm Cynon. Rwy'n fodolon ildio i'r galw a chyflwyno (am un diwrnod yn unig) Trioedd Ynysybwl. Cyn i unrhyw un ddweud, rwy'n gwybod nad yw Ynysybwl yn dechnegol yng Nghwm Cynon ond mae'n ddigon agos i fi!
1. Mae gan Gwm Cynon rhan ddiddorol a phwysig yn hanes Cymru ar mae'r cyfan wedi ei groniclo ar wefan rhagorol . Yno cawn ddysgu mai yn y cwm y cynhaliwyd y Gymanfa Ganu a'r Eisteddfod Genedlaethol gydnabaddedig gyntaf. Mae'r gwefan hefyd yn nodi hyn;
"1872-73: aeth Griffith Rhys Jones (Caradog) â Chôr Mawr Deheudir Cymru i'r Palas Grisial yn Llundain, gan ddechrau'r broses araf o adennill hunan-barch i'r Cymry yn dilyn Brad y Llyfrau Gleision (1842) ac oes o wawdio'u hiaith a'u cymeriad."
Dyw'r gwefan ddim yn nodi nad oedd Caradog yn arwr i bawb. Ef oedd sylfaenydd bragdy Trelái. "Ely Beers" oedd un o'r pedwar cwmni bragu fu'n torri syched gweithwyr y de am ganrif a mwy. Go brin y byddai'r geiriau Ely, Hancocks, Brains na Rumney yn cael eu hyngan yn....
2. ...Capel Bethesda Abercwmboi. Mae ambell i sylw wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y capel hwn yn hanes Plaid Cymru. Sefydlwyd y gangen gyntaf o Blaid Cymru y tu fas i Sir Gaernarfon yn ei festri yn 1928. Mae Bethesda yn gapel arbennig o hardd a hynny yn rhannol oherwydd ymdrechion ei ysgrifennydd, Aled Morris. Fel gweithwyr eraill y Phurnacite roedd Aled yn rhan o'r streic fawr yn 1984-85. Treuliodd y flwyddyn honno yn adnewyddu ac ail-addurno'r capel er mwyn yn sicrhau na fyddai'n wynebu un ffawd a chymaint o gapeli Cymraeg eraill y cymoedd.
3. Mae Plaid Cymru wedi gobeithio cipio Cwm Cynon ar sawl achlysur ond wedi methu gwneud. Fe enillodd y blaid y bleidlais ranbarthol yn yr etholaeth yn etholiad cynulliad 1999 gan golli'r bleidlais etholaethol. Serch hynny, mwy fyth dwi'n meddwl am y peth os oeddwn yn chwilio am etholaeth i roi "outside bet" i Blaid Cymru arni yn etholiad 2011 Cwm Cynon fyddai'r un.
Bonws bach; un o gymeriadau mwayf lliwgar Cwm Cynon oedd Harri Webb y bardd a meistr y cwpled bachog. Dyma fy ffefryn;
"When Christ was hanged in Cardiff jail
Thank goodness said the Western Mail"
SylwadauAnfon sylw
Ffefryn fi yw:
"Advice to a Young Poet
Sing for Wales or shut your trap
All the rest's a load of crap"
Pithi!
Ond yr 'Old Warrior' sy' efalle'n fwyaf perthnasol heddiw. Anthem Huw Lewis dybia fi!