Taro Tant
Dydyn nhw ddim o dragwyddol bwys ar ddiwedd y dydd ond mae rhai o'r undebau llai wedi bod yn trafod yr arweinyddiaeth Llafur a dewis eu ffefrynnau.
Fe fydd hi'n ergyd i Edwina, fel cyn aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru, bod Undeb y Cerddorion wedi dewis cefnogi Carwyn.
Mae'n llai o syndod efallai bod y Cwnsler Cyffredino wedi denu cefnogaeth Undeb y Pobwyr. Pwy wnaeth fwyta gyd o'r peis?
Yn anffodus does dim pleidlais gan Undeb y Pobwyr. Rwy'n sicr y bydd Carwyn yn falch o gael wobr gysur ganddyn nhw. Unrhyw beth i gael crwsten!