Ffrindiau fel rhain
Mae Alun Davies yn cefnogi Carwyn Jones yn y ras i arwain Llafur Cymru. Go brin y byddai dyn yn credu hynny o glywed y slamad y rhoddodd Alun i Arweinydd y TÅ· yn y cynulliad heddiw!
Roedd Alun yn siarad yn ystod y ddadl ynghylch yr LCO iaith, gorchymyn, sydd yn ôl Alun, yn gyfyng, yn gul ac yn anghyflawn. Aeth yn ei flaen i gyfeirio at honiadau Carwyn bod y gyfundrefn LCO bellach yn gweithio'n effeithiol.
Y gwrthwyneb sy'n wir yn ôl Alun. Dywedodd fod y gyfundrefn wedi ei defnyddio i glymu dwylo'r cynulliad a'i rhwystro rhag cyflwyno deddfwriaeth effeithiol ynghylch y Gymraeg. Ychwanegodd ei fod wedi cael llond bol ar y system LCO gan alw am gynnal refferendwm ar bwerau deddfu llawn "cyn gynted a bo modd".
Nawr, i ryw raddau, does a wnelo'r ffrae yma ddim byd a'r LCO iaith. Roedd sylwadau Carwyn (fel darlith Peter Hain wythnos ddiwethaf) yn rhan o ymdrech i gadw'r penderfyniad ynghylch amseriad y refferendwm yn nwylo'r gwleidyddion. Ofn rhai, ac mae'n ymddangos bod Carwyn yn un ohonyn nhw, yw y bydd argymhelliad Confensiwn Syr Emyr mor ddigyfaddawd nes gadael y llywodraeth a fawr o ddewis ond galw pleidlais.
Gallwch ddeall ofnau Carwyn. Meddyliwch pa mor drychinebus fyddai ei sefyllfa pe bai'n cael ei ethol yn Brif Weinidog, yn galw pleidlais fel un o'i gweithredoedd cyntaf a bod y refferendwm yn cael ei cholli.
Mae 'na ffordd allan o'r picl yna. Fe fydd adroddiad y Confensiwn yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 18fed. Mae 'na ddigon o amser i felly i'r penderfyniad gael ei wneud cyn i Rhodri ymddeol. O wneud hynny fyddai'r bai am golli'r bleidlais (pe bai hynny'n digwydd) ar ysgwyddau'r cyn Brif Weinidog.
Fe ofynnwyd i Carwyn deirgwaith heddiw p'un ai Rhodri neu ei olynydd ddylai benderfynu amseriad y refferendwm. Fe wnaeth e osgoi ateb y cwestiwn.
Dyma'r ddadl ynghylch yr LCO iaith yn ei chyfanrwydd. Rwy'n ei chynnwys yn fan hyn i dynnu sylw at y ffaith bod croeso i unrhyw un ddefnyddio deunydd "Democratiaeth Fyw" ar eu safleoedd neu blogs eu hun. Er mwyn cynnwys deunydd ar eich safle gwasgwch y botwm "mewnosod" neu "embed" ar y cynnwys perthnasol a dilynwch y cyfarwyddiadau. Cynlluniwyd y safle i fod yn ganolfan adnoddau rhad ac am ddim i bawb yn ogystal a gwasanaeth yn ei rinwedd ei hun.
SylwadauAnfon sylw
Gwefan wych. Fydd y fideo yma'n gweithio rywbryd? Does dim byd yn ymddangos ar y funud.
Mae'n cael ei llwytho ar hyn o bryd. Fe fydd hi ar gael o gwmpas saith o'r gloch. Gan amlaf mae na rhyw awr o saib rhwng y darllediad byw ac argaeledd ar yr archif.
Er ddim yn ymateb uniongyrchol i dy sylwadau am Alun Davies Vaughan, dyma rai meddyliau yn dilyn gwylio'r ddadl ar ei hyd yn Democratiaeth Fyw heddiw. Un peth fedra i ddim dioddef yn dilyn saga'r LCO yma ydy sbin gan y Blaid. Mae’r LCO iaith yn arbennig o wan ac mae’r Blaid yn gwybod hynny’n iawn. Ond yn hytrach na chydnabod hynny’n blaen a bod yn fwy beirniadol o’r phartner mewn llywodraeth mae strategaeth gyfathrebu’r Blaid wedi mynd ati i drio dadlau fod pasio’r LCO yma yn rhan o wireddu addewid maniffesto. Dywedodd Bethan Jenkins AC dros y Blaid heno ‘ma:
"Pan ffurfiodd y Blaid lywodraeth, roeddem wedi ymrwymo i ennill statws swyddogol i’r Iaith Gymraeg, hawliau ieithyddol pan yn derbyn gwasanaeth a chomisiynydd i warchod yr hawliau yma. Mae’r ddeddfwriaeth yma yn ein caniatáu i gyflawni hyn oll yn ogystal â nifer o’n haddewidion maniffesto."
Sbin yw hyn gwaetha’r modd oherwydd dydy’r LCO ddim yn ddigon eang i fedru llunio mesur fydd yn rhoi hawliau ieithyddol llawn i Gymry Cymraeg. Felly ni fydd yr LCO yn dod a’r Blaid, gwaetha’r modd, yn nes at wireddu’r addewid o hawliau ieithyddol llawn. Efallai eu bod nhw wedi gwneud y gorau o’r sefyllfa (ond mae hynny’n parhau i fod yn annigonol yn fy nhyb i) ond celwydd ydy honni fod yr LCO yma yn gwireddu addewid maniffesto. Pam y methwyd a llunio LCO ddigon cryf i wireddu’r addewid? Mae yna ddau opsiwn, (i.) naill ai fod y Blaid ddim a digon o asgwrn cefn neu (ii.) bod Llafur wedi eu rhwystro. Yn hytrach na nodi pa un o’r ddau sy’n wir (y tebygrwydd yw ei fod yn gymysgedd o’r ddau) mae’r Blaid yn lle yn gwthio’r peth dan y mat ac yn ceisio dweud fod yr addewid wedi ei anrhydeddu yn wir.
Medr unrhywun sydd wedi darllen yr LCO weld yn gwbl glir na ddaw unrhyw fesur gaiff ei lunio o fewn rhychwant yr LCO a hawliau ieithyddol llawn i ni. Methwyd a gwireddu'r addewid felly.
chwaerae teg i Alun Davies. Vaughan, er mwyn safio fi'n gwylio awr o 'drafodaeth' lle mae'r darn diddorol am Alun yn holi Carwyn?
Tua deg munud cyn y diwedd
Smonach llwyr yw'r LCO yma - y rhai sydd yn mynd i elwa yw cyfreithwyr. Unwaith eto mae gan Alan Trench ddadansoddiad trylwyr o'r gwendidau a'r oblygiadau cyfansoddiadol.
Prysured diwrnod y refferendwm a phleidlais Ie.
Ceisies i esbonio wrth ffrind beth oedd yd LCO/Deddf iaith newydd. Doeddwn i methu meddwl am un peth gall wneud.
Cofio fod Llafurwyr Prydeinig San Steffan wedi codi'r trothwy i £400k o arian cyhoeddus cyn gorfod rhoi unrhyw wasanaeth Cymraeg.
Cofio fod rhyw son am Comisiynnydd iaith h.y. sop dibwrpas.
Ac, erm, 'na ni.
Dydy'r peth ddim gwerth y papur mae wedi ei sgwennu arno.
Mae Alun Davies yn iawn ... er base'n fwy o wr petai'n derbyn mai ei blaid ef sydd wedi gwanhau'r broses a'r ddeddf.
Mewn Cymraeg ac enghreifftiau syml, be mae'r LCO'n ei wneud Vaughan?
Diddorol gweld fod Darren Millar wedi newid ei enw:
"Professional career
Prior to his election to the assembly, Pint of Millar was a manager for an international charity. "
Rhywun yn cael hwyl wrth 'olygu' tudalennau aelodau cynulliad lawr yn y Bae!
Diolch Vaughan - watches i'r deng munud olaf a dyna'r peth mwyaf difyr i fod yn y Siambr ers talwm. Roedd yn werth gwylio darn Alun Cairns, Alun Davies ac yna put-downs sarcastig Alun Ffred.
Baswn i wedi hoffi bod yno, ond wrth gwrs, petawn i yno faswn i'n styc tu ôl i'r ffenestri gwirion yno yn edrych lawr ac yn gweld dim ond cefnau pen pobl neu ddim hyd yn oed yn gweld y siaradwyr o gwbwl heb i mi edrych ar y sgrin. Waeth i rhywun aros adre ddim!
Pan gawn ni 80 AC a bydd angen ail-ddylunio'r Siambr oes modd i Dafydd El symud seddi'r gynulleidfa lawr i lefel y Siambr fel fod yn werth mynd yno i weld? Efallai wedyn hefyd y bydd mwy o awyrgylch yn y lle a bydd lefel y drafodaeth a'r areithio'n gwella'. Wedi'r cyfan, beth yw pwynt paratoi araith i rhyw 30 o bobl a llond dyrned sy'n edrych i lawr arnoch chi fel petaech yn bysgod aur.
Son am drylowydeb - mae'r cynllun yn cau pobl allan nid eu tynnu i fewn. Cynllun gwael iawn.