Caewch y drysau
Dydw i ddim am dreulio gormod o amser yn mynd dros hen dir y gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus. Dyw'r rheolau ddim am newid nawr ac, am wn i, maen nhw er gwell o safbwynt ein hiechyd. Ond fe wna i nodi bod 'na bum tafarn o fewn hanner milltir i fy nhÅ· sydd naill ai wedi cau neu sydd ar werth. Nid y gwaharddiad ysmygu yw'r unig ffactor yn hynny, wrth reswm, ond mae'n rhan o'r peth.
Y pwynt bach sy gen i yw bod gwleidyddion yn hynod o barod i wahardd pethau amhoblogaidd. Mae banio rhywbeth yn plesio'r pleidleiswyr a does dim cost ariannol. Dim cost i bwrs y wlad, hynny yw. Mae 'na gost ond mae'n gost i rywun arall. Yn achos y gwaharddiad ysmygu, y tafarnwyr a'r bragdai sy'n ei thalu.
Mae'n dipyn o ryfeddod i mi bod y Cynulliad heddiw wedi penderfynu peidio gwahardd bagiau siopa untro. Rwy'n amau bod lobio "Basil y Bags" sy'n cyflogi dros gant o weithwyr yn ei ffatri fagiau yng Nglynebwy a wnelo fe rywbeth a'r penderfyniad!
Yn lle gwaharddiad bwriad y Llywodraeth yw codi treth ar y bagiau yn debyg i'r sy'n bodoli yn yr Iwerddon. Mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau (sy'n cefnogi'r cynllun) yn mynnu mai ardoll (levy), nid treth, yw'r cynllun. Mae treth yn orfodol tra bod ardoll yn ddewisol. Mae'r gwleidyddion yn dadlau bod defnyddio'r bagiau yn fater o ddewis ac mai ardoll nid treth yw hon felly. Fe fyddai Orwell wrth ei fodd a'r gemau geiriol! Rwy'n edrych ymlaen at glywed gwleidyddion yn trafod yr ardollau ar betrol, faco a'r ddiod gadarn!
Mae arolygon barn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobol yn cefnogi'r ardoll. Sgwn i a fyddai'r mwyafrif yn cefnogi treth? Mae geiriau'n bwysig weithiau.
SylwadauAnfon sylw
Gan nad oes gan y Cynulliad hawl i godi trethi "isafswm pris" byddai'r ardoll. Ac mae mynnu isafswm pris yn groes i reolau masnach deg yr UE.