Wal Fawr Tsiena
Mae 'na dipyn o grafu pen yn mynd ymlaen yng Nghaerdydd a San Steffan ynghylch sut y byddai'r berthynas rhwng llywodraeth Llafur/Plaid Cymru yng Nghymru ac un Geidwadol yn Llundain yn gweithio. Yn fwyaf penodol fe fyddai rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhyfedd ar y naw gyda'r deiliad yn gorfod ymddwyn mewn modd sgitsoffrenig bron.
Ystyriwch am eiliad beth fyddai'n digwydd wrth i'r llywodraeth baratoi rhyw bolisi, LCO neu fesur newydd. Fe fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl gwybod am bethau fel 'na cyn i unrhyw beth gael ei gyhoeddi'n swyddogol. Ond a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth a rhywun a allai ei phasio ymlaen i'r brif wrthblaid yn y Cynulliad? Os oedd y llywodraeth yn fodlon rhannu cyfrinachau a Cheryl Gillan (neu bwy bynnag) a fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu gwrthsefyll y temtasiwn i gael gair bach yng nghlust Nick Bourne?
"Muriau Tsieineaidd" yw'r ateb yn ôl rhai, y muriau anweledig sy'n bodoli pan mae achosion yn codi lle mae'n rhaid i ddau ddarn o fusnes neu gorff cyhoeddus ymddwyn yn annibynnol o'i gilydd. Mae hynny'n digwydd pan mae Cyngor, er enghraifft, yn gorfod ystyried cais cynllunio gan un o'i adrannau ei hun.
Yn yr achos yma fe fyddai'n rhai i'r mur fodoli o fewn un person sef yr Ysgrifennydd Gwladol. Fe fyddai'n rhaid ceisio gwahanu'r gweinidog a'r gwleidydd plaid. Oes modd adeiladu mur Tsieineaidd trwy gorff o gig a gwaed? Go brin.
Mae'n anorfod yn fy marn i y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi cyn lleied o wybodaeth a phosib i Ysgrifennydd Gwladol o blaid wahanol. Fe fyddai hynny'n sicr o greu drwgdeimlad a thensiynau ond pa ddewis arall fyddai 'na mewn gwirionedd?