Achos Da
Heddiw fe fydd Peter Hain yn lansio ymgyrch "" yn Abertawe. "Islamic Relief" sydd wedi trefnu'r digwyddiad lle fydd bwytai Asiaidd y ddinas yn cyfrannu hanner pris pob pryd i Gronfa Argyfwng Haiti. Llwyddodd digwyddiad tebyg yng Nghaerdydd i godi £25,000.
Gallai rhywun cellweirus awgrymu y byddai'n bosib ychwanegu at y swm hynny trwy drefnu cinio £1,000 y plât yng Nghlwb y Parkhouse. Noson i ddathlu'r ffaith bod Cymru'n wlad fwy cyfoethog 'na Guinea Bissau efallai!
Mae'r noson yn Abertawe yn cael ei chynnal ar Chwefror 11eg. Yn y cyfamser mae cyngerdd "" yn cael ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Lun nesaf. Mae Rhydian Roberts, Dennis O'Neill, Wynne Evans, Natalya Romaniw, Geraint Llyr Owen, Mal Pope, David Soar, Michael Pollock, Cor y Cwm a Chor Caerdydd i gyd yn perfformio. Does dim son am Elinor Burnham, hyd yma!
SylwadauAnfon sylw
Pryd fydd Rwanda'n cynnal noson gyffelyb i gynorthwyo Cymru ?
Ar ol deg mlynedd pellach o Peter Hain, mae'n siwr .