Ym Mhonypridd mae 'nghariad
Mae'n anodd datgysylltu'r egwyddorol o'r personol weithiau. Mae'n debyg mai cymysgedd o'r ddau yw aelod seneddol a rhai o aelodau lleol y Blaid Lafur ym Mhontypridd i osgoi gorfod dewis olynydd i Kim Howells trwy ddefnyddio rhestr fer wedi ei chyfyngu i ferched yn unig.
Fe fydd rhai o'r gwrthwynebwyr yn erbyn y peth ar egwyddor, eraill yn dymuno gweld unigolyn arbennig yn cael y cyfle i ymgeisio. Rhyw un fel Garry Owen, cadeirydd Llafur Cymru, neu hyd yn oed fy nghyn gyd-weithiwr, Owen Smith.
Ar bapur o leiaf fe fyddai Owen Smith yn ymgeisydd perffaith. Mae ganddo gysylltiadau agos a'r ardal ac mae'n ddyn huawdl a galluog. Ar y llaw arall mae'n ymwybodol iawn o'r niwed y gall ffraeo ynghylch rhestri merched yn unig achosi. Ef wedi cyfan oedd ymgeisydd aflwyddiannus y blaid yn is etholiad seneddol Blaenau Gwent!
SylwadauAnfon sylw
falle bod hwn yn gwestiwn dwl, ond gan mai gwrthwynebiad i'r rhestri merched yn unig oedd wrth wraidd dadl blaenau gwent yn y lle cyntaf, rhyfedd mai owen smith, dyn, oedd yn sefyll dros y blaid lafur...?