Bob y Bildar
Nid nepell o'r Cynulliad, cyferbyn a Chanolfan y Mileniwm mae 'na safle adeiladu sydd, fel nifer o rhai eraill yn y Bae, wedi bod yn segur ers y danchwa economaidd ddeunaw mis yn ôl. Dros nos bron diflannodd yr adeiladwyr a'u peiriannau gan adael y bloc o fflatiau moethus wedi ei hanner orffen.
Heddiw wnaeth aelod Llafur bwynt o dynnu fy sylw at yr olygfa a'r ffaith bod craen uchel wedi ail-ymddangos ar y safle a bod dynion mewn hetiau caled a siacedi melyn i'w gweld ym mhobman. Un craen ni wna wanwyn, wrth reswm ond mae'r ffaith bod ambell i flaguryn economaidd yn ymddangos wedi codi calonnau pobol Llafur.
Mae gweld ambell i graen neu glywed bod cyfaill neu gymydog wedi llwyddo i werthu tÅ· yn fwy real i'r rhan fwyaf ohonom nac ystadegau haniaethol ynghylch tyfiant economaidd neu ddiweithdra.
Gydag arwyddion o'r fath a'r arolygon barn yn awgrymu bod yr adwy rhwng y ddwy blaid fawr yn lleihau does dim rhyfedd bod pobol Llafur ychydig yn fwy gobeithiol neu yn anobeithio llai ynghylch yr etholiad cyffredinol.