³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Handlo hunllef

Vaughan Roderick | 13:58, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2010

_45279989_kirsty2261pa.jpgYng nghanol cyfnod bach digon hunllefus i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru mae gan y blaid un cysur ac mae hwnnw'n gysur go fawr. Mae Kirsty Williams wedi arddangos sgiliau a synnwyr gwleidyddol o'r radd uchaf wrth ddelio nid yn unig a sefyllfa Mick Bates ond hefyd y trafodaethau ynghylch y bleidlais i gynnal refferendwm.

Roedd 'na beryg y gallai'r bleidlais honno ynghyd a bygythiad y blaid i ymatal ynddi fod yn gwmwl dros gynhadledd y blaid. Llwyddodd Kirsty i osgoi hynny yn gelfydd trwy gyrraedd cytundeb a'r llywodraeth Ddydd Gwener ar ôl danfon neges glir bod angen iddi fod yn llai llawdrwm wrth ddelio a'r gwrthbleidiau os am sicrhau eu cefnogaeth.

Doeddwn i ddim yn y neuadd ar gyfer araith Kirsty yn Abertawe ond yn ôl y rhai oedd yno roedd hi'n dipyn o "barnstormer". Pwy all beio Kirsty felly os aeth hi i'w gwely nos Sadwrn gan deimlo bod popeth yn mynd o'i phlaid?

Gallwn ond dychmygu gymaint o glec oedd gweld y cyhuddiadau ynghylch Mick Bates yn y "Wales on Sunday". Roedd hi, fel ni newyddiadurwyr, yn gwybod bod aelod Maldwyn wedi cael anaf yn oriau man y bore rhai wythnosau yn ôl. Roedd hi, a ni, yn gwybod bod Mick wedi bod yn yfed cyn hynny. Coeliwch neu beidio dyw "gwleidydd yn meddwi" ddim yn stori!

Yr hyn y gwnaeth hi'n stori oedd honiad y papur bod 'na gyhuddiad bod Mick Bates wedi ymddwyn yn fygythiol tuag at staff y gwasanaeth iechyd. Prin oedd tystiolaeth y papur mewn gwirionedd ac fe fyddai'n annheg beirniadu Kirsty am beidio â gweithredu yn erbyn yr aelod yn syth. Roedd cadw Mick i ffwrdd o newyddiadurwyr a chamerâu yn gamgymeriad ond yn un cymharol ddibwys.

Pan ddarlledodd y ³ÉÈËÂÛ̳ honiadau gweithiwr ambiwlans ynghylch ymddygiad Mick Bates fe weithredodd y blaid y gyflym ac yn gywir. Collodd yr aelod ei swydd fainc blaen a'i gadeiryddiaeth pwyllgor yn syth a doedd na ddim ymdrech i fychanu difrifoldeb y sefyllfa. Yn ei chynhadledd newyddion heddiw atebodd Kirsty bob un cwestiwn yn bwyllog a gofalus gan wrthod cymryd yr abwyd a chwestiynu amseriad ymddangosiad y stori.

Y cyhuddiad y mae dyn yn clywed amlaf gan wrthwynebwyr Kirsty yn y pleidiau eraill yw ei bod hi'n "anaeddfed" neu'n "wleidyddwraig myfyrwyr". Mae ei hymddygiad dros y dyddiau diwethaf wedi gwneud llawer i ddadbrofi'r cyhuddiad hwnnw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.