Hen Hanes.
Bues i'n cadeirio trafodaeth pedair plaid yn ystod yr awr ginio heddiw. Nid am y tro cyntaf fe drodd y peth yn ffrae ynghylch Thacheriaeth a'i heffaith ar Gymru. Am ddeg munud o'r bron fe fu cynrychiolwyr y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr yn dadlau'n danbaid ynghylch union gynnwys maniffesto Llafur 1983.
Pwy oedd yn y gynulleidfa? Myfyrwyr chweched dosbarth sy'n studio gwelidyddiaeth. Fe'u ganwyd yn y nawdegau. Oedd angen y wers hanes?
SylwadauAnfon sylw
"Oedd angen y wers hanes?"
Oedd debyg Vaughan - buan fydd pobol yn anghofio'r cyfnod oni bai ein bod ni'n atgoffa'r cenhedlaethau a ddaw o'r drwg a fu!
Rhaid cofio Thatcher fel mae'n rhaid cofio yr Holocost, a'r bomiau atomig a ddefnyddwyd ar Siapan ddiwedd yr ail ryfel byd.
Os ddim mae'n fwy tebygol i gyflafan tebyg ddigwydd eto.
Dwi'n meddwl mai Georges Santyana a ddywedodd bod pobol sy'n anghofio eu hanes yn cael eu condemnio i'w ailadrodd....
Nid oedd Thatcheriaeth yn dda o gwbl i Gymru (fe eisteddais ar ei char hi yng Nghaergybi yn 1980) ond yn union fel Peter Hain ddoe, dwi'n meddwl fod y cymariaethau ti'n gwneud yn hurt ac yn tanseilio dy ddadl.
Yr oedd Mrs Thatcher yn ddynes ddeallus tu hwnt, a gyda mwy o lygad am fanylion polisi na Tony Blair ,ond yn anffodus yr oedd hefyd yn cael ei gyrru yn llwyr gan egwyddorion y farchnad rydd. Yr oedd ei hagwedd tuag at Ewrop yn wenwynig hefyd .
Yr oedd Cymru'n dioddef o ddirwasgiad a ddiweithdra ymhell cyn 1979 , gan ein bod mewn cyflwr ol-ddiwydiannol ers cenhedlaeth cyn hynny . Gyda'r problemau addysgiadol a chymdeithasol sydd yna yn y cymoedd, mae rhywun yn tybio bellach fod yr ardal yna y tu hwnt i achubiaeth- ac mae pob gwleidydd yn gwybod hynny ond ofn dweud y gwir .
Hogygog - ymddiheuriadau am fod ynhwyr iawn yn ymateb.
Ia wel efallai fy mod wedi bod yn fler wrth geisio esbonio'r hyn oedd gennai - NID cymharu Thatcher a'r cyfnod hefo'r Holocost a Hiroshima a Nagasaki yn uniongyrchol oedd fy mwriad. Yn hytrach y weithred o gofio am y gorffennol, o ddysgu gwersi o'n camgymeri9adau a'i peidio a'i anhghofio - dyna oedd fy mwriad. Yn hynny o beth dwi'n dal at yr hyn a ddywedais - rhaid cofio a dysgu am ddiwedd diwydiant yng Nghymru a'r newid seicolegol, a chymdeithasol anferthol a ddigwyddodd yn ystod ei chyfnod a wedi hynny.
'Ddrwg iawn gennai am fod yn fler yn esbonio'r tro cyntaf.