Pobol y Palas
Mae'n annhebyg bod enw Arglwydd Crowther Hunt yn golygu rhyw lawer i bobol y dyddiau hyn ond roedd e'n ddyn mawr a phwysig ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd e'n aelod o Gomisiwn Kilbrandon yn y 1960au, er enghraifft, y comisiwn wnaeth lunio'r lol potes maip o setliad cyfansoddiadol wnaeth gael ei ddwstio lawr gan y Blaid Lafur fel sail i fesur datganoli 1997. I fod yn deg i Norman Crowther Hunt, fe wrthododd e arwyddo'r adroddiad gan ddadlau dros rywbeth llawer cryfach.
Ta beth, yn ôl yn 1973 Crowther Hunt oedd yn gyfrifol am gychwyn darn bach diddorol o ymchwil ynghylch bodlonrwydd yr etholwyr a'r system wleidyddol. Ar y pryd roedd 49% yn anfodlon a'r system a 48% yn fodlon.
Mae'r un cwestiwn wedi cael ei ofyn yn rheolaidd ers hynny gan Gymdeithas Hansard ac mae'n sylfaen i'w . Yn ôl yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos hon mae 69% yn anfodlon a'r gyfundrefn erbyn hyn a dim ond 28% yn fodlon.
Efallai bod y cynnydd yn y lefelau o anfodlonrwydd a'r system fel ac y mae hi yn rhan o'r esboniad am y newid agwedd tuag at ddatganoli rhwng 1979 a 1997 ac ers hynny. Un ffactor arall sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad yw hwn. Dyw pobol Cymru ddim yn meddwl rhyw lawer o San Steffan.
Trwy Brydain roedd 34% yn fodlon a Senedd y DU. Dim ond 21% o bobol Cymru oedd yn fodlon ac roeddem yr un mor llugoer ynglŷn ag aelodau seneddol fel grŵp a'n haelodau unigol.
Mae'r sampl yn fach, cofiwch, ond fe fydd y canlyniadau yn brifo deiliaid Cymreig y palas!