Llwybr Llaethog
Mae'n wythnos o golledion yng Nghrymu. Nid yn unig yr ydym wedi colli un o'n mawrion gwleidyddol, daw newydd bod rhyd i'w chau a Phafiliwn Corwen wedi went. Mewn ergyd drom i fynychwyr sefydliad Cymreig unigryw gwelaf fod NMB arall yn cyrraedd pen ei oes. Ni fydd 'na filk shakes yn o'r Pasg ymlaen.
O leiaf yn yr achos yma, yn wahanol i'r gyflafan honno pan wnaeth KFC fachu hanner dwsin o fariau llaeth dros nos mae gwyliwr ar y twr wedi seinio'r larwm. Mae trigolion Llanidloes yn trefnu protest. Pob nerth i'w braich!
Mewn peryg yn fan hyn mae un o ffiniau mwyaf pwysig Cymru. Nid ffin ddaearyddol economaidd nac ieithyddol mohoni ond ffin gymdeithasol o bwys- y llinell anweladwy lle mae "cafe late" yn diflannu o'r fwydlen a "frothy coffee" yn ymddangos yn ei le!
Os ydych chi'n chwilio am feddwl mawr ynghylch y mesur iaith- fe fydd gen i erthygl ar y prif wefan yn ddiweddarach heddiw!
Yn y cyfamser dyma ddyfyniad y dydd;
"Sex is a beautiful thing..." Brynle Williams. Peidiwch gofyn pryd nac i bwy!