Mesur wrth Fesur
Mae'r erthygl yma hefyd yn ymddangos ar y gwefan newyddion yn . Mae Croeso i chi adael sylwadau.
Ar ôl yr holl ddadlau ynghylch yr LCO iaith gellid maddau i unrhyw un oedd yn credu na fyddai'r mesur cyntaf i'w gyflwyno yn ei sgîl yn bwnc llosg.
Wedi'r cyfan, mae cynnwys y Gorchymyn Cymhwysedd ei hun yn rhwystro'r cynulliad rhag cyflwyno rhai mesurau a allai fod yn ddadleuol, er enghraifft gorfodaeth ar fusnesau bach i ddefnyddio'r iaith.
Ond megis cychwyn mae'r dadlau mewn gwirionedd.
Mae'n debyg y bydd rhai cwmnïau a sefydliadau yn dadlau bod y mesur yn mynd yn rhy bell, yn enwedig darparwyr gwasanaethau fel telathrebu fydd yn cael eu gorfodi i ddarparu gwasanaethau Cymraeg am y tro cyntaf.
Hefyd mae'n debyg y bydd rhai o aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cwestiynu aneglurder y llywodraeth ynghylch cost gwireddu'r mesur.
Ond o gyfeiriad arall y mae'r cwynion cyntaf wedi dod - oddi wrth fudiadau iaith sy'n anhapus nad yw'r mesur yn rhoi'r hawliau i unigolion fynnu gwasanaethau yn Gymraeg.
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Fe addawodd y llywodraeth hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Byddai'r llywodraeth yn torri addewid os na fyddan nhw'n delifro hawliau ... heb hawliau unwaith eto bydd rhaid i bobl Cymru ddibynnu ar agwedd fympwyol gwleidyddion a swyddogion yn lle adeiladu ar ewyllys da pobl gyffredin."
Safonau
Dadl y llywodraeth yw y bydd y mesur yn rhoi hawliau i bobl er nad yw'n dweud hynny'n benodol.
Fe fydd comisiynydd yn cael ei benodi i osod safonau gwasanaeth y bydd rhaid i gwmnïau a chyrff cyhoeddus ufuddhau iddyn nhw.
Os nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon fe fydd modd eu dirwyo. Mae gorfodi rhywun i ddarparu gwasanaeth yn gyfystyr â rhoi'r hawl i ddefnyddiwr dderbyn y gwasanaeth hwnnw, medd y llywodraeth.
Onid gwell yw cael comisiynydd i ofalu bod cyrff cyhoeddus a chwmnïau yn darparu gwasanaethau dwyieithog na disgwyl i unigolion fynd i gyfraith i "hawlio" gwasanaeth o'r fath?
Mae ymgyrchwyr iaith wedi tynnu sylw at wendidau amlwg yn nadl y llywodraeth. Fe fydd gan ddarparwyr gwasanaethau'r hawl i apelio i dribiwnlys yn erbyn y safonau y mae'r Comisiynydd yn eu pennu.
Does dim hawl apêl debyg i ddefnyddwyr.
Fe fyddai gan ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith fawr o allu i fynnu gwasanaethau os yw comisiynydd gwan yn cael ei benodi gan lywodraeth sy'n llugoer at yr iaith.
³¢´Ç²úï´Ç
Eu hunig ddewisiadau fyddai lobïo Aelodau Cynulliad neu geisio arolwg barnwrol drud.
Mae'r llywodraeth wedi dweud ei bod yn fodlon rhoi ystyriaeth i'r anghyfartaledd ymddangosiadol rhwng hawliau apêl y defnyddwyr a'r darparwyr.
Hefyd mae'n debyg y bydd 'na alwadau am roi'r hawl i'r cynulliad cyfan benodi'r comisiynydd yn hytrach na'i adael yn nwylo'r Prif Weinidog fel mae'r mesur yn ei wneud.
Nid hwn yw'r unig destun dadlau dros y misoedd nesaf.
Fe fydd y Bwrdd Iaith yn diflannu oherwydd y mesur. Y comisiynydd fydd yn etifeddu'r dyletswyddau statudol ond beth am weddill gwaith y bwrdd, gan gynnwys didoli grantiau, cynnal gwaith ymchwil ac yn y blaen?
Mae'n ymddangos bod 'na fwlch mawr rhwng y rheiny sy'n credu y dylai'r Comisiynydd Iaith fod yn gyfrifol am y meysydd hynny a'r rheiny sy'n credu y dylai'r llywodraeth ei hun ymgymryd â'r gwaith.
Ac mae'n ymddangos nad yw'r gweinidog eto wedi penderfynu.
SylwadauAnfon sylw
Be fydd yn digwydd i Bwrdd yr Iaith? Neu fydd y Comisiynydd jesd cymryd y gwaith drosodd?
Dwi'm yn credu fod y Llywodraeth, Alun Ffred (a'r mudiadau iaith) wedi penderfynnu a'i angen statws sydd ar yr iaith neu angen ei hyrwyddo?
Ydi'r mesur yn mynd i gynnyddu nifer y siaradwyr Cymraeg neu beidio? Dyna'r cwestiwn i fi.
Mae 'na ddadleuon o blaid ac yn erbyn "hawliau" fel cysyniad athronyddol, a dydyn nhw ddim o angenrheidrwydd ynghlwm wrth "gynnydd" yn nifer siaradwyr na dim felly.
Ond y peth yw hyn: "hawliau" yw ieithwedd wleidyddol ein cymdeithas gyfoes ac felly rhaid ei wynebu. Mae'r anhawster sydd gen i a'r ddadl "hawliau" iaith yng Nghymru, a'r dehongliad ohoni gan y llywodraeth glymblaid, yn un digon syml. Ar ba sail y dywedir y dylai hawliau hil/cenedl(gender)/rhywioldeb ayyb effeithio ar y sector gyhoeddus yn fewnol (h.y. ar weithwyr) ac ar y sector breifat os y dadleuir na ddylai hawliau iaith effeithio arnyn nhw hefyd? Pam dylai hawliau iaith fod yn llai cynhwysfawr?
Yn hynny o beth, mae arna i ofn nad yw'r Mesur arfaethedig hwn yn ddigon cryf.
Dydw i ddim yn meddwl fod pwynt gwastraffu gormod o amser yn dadlau am rinweddau neu ddiffygion y mesur yma – oherwydd yn y pen draw, cymharol ymylol fydd effaith unrhyw ddeddfwriaeth ar y Gymraeg.
Newidiadau demograffig sy’n peri’r rhwystrau mwyaf i ddefnyddio’r Gymraeg – nid unrhyw ddiffygion o ran hawliau unigolion.
Er enghraifft, os ydi tai eich cymdogion yng nghefn gwlad, neu’r siop a’r dafarn leol, yn mynd i ddwylo teuluoedd o Lerpwl neu Birmingham, mae hynny’n amharu llawer mwy ar eich cyfleoedd i siarad Cymraeg na pha iaith sydd ar eich bil Vodafone.
O ran cael y sector preifat i ddefnyddio’r Gymraeg – mae arf llawer iawn cryfach na deddfwriaeth ar gael gan y llywodraeth. A hithau’n gwario biliynau o arian cyhoeddus ar brynu nwyddau a gwasanaethau gan y sector preifat bob blwyddyn, y cyfan sydd angen i Lywodraeth y Cynulliad ei wneud ydi rhoi neges glir y bydd yn rhoi sylw ffafriol i gwmnïau sy’n defnyddio’r Gymraeg wrth osod tendrau allan. Mi fydden nhw am y gorau i ddefnyddio’r Gymraeg wedyn. Byddai gan hynny’r fantais ychwanegol hefyd o sicrhau mwy o fusnes i gwmnïau yng Nghymru.