³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Safon Dau

Vaughan Roderick | 12:39, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010

leightonandrews.jpg"Mae'r broses o ad-drefnu ysgolion yn rhy hirfaith ac yn pery ansicrwydd i gynghorau ac ysgolion."

Pwy sy'n dweud? Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews. Ychwanegodd y Gweinidog fod uchel swyddogion yr adran wedi bod yn trafod ffyrdd o gyflymu'r broses er lles pawb.

Digon teg. Go brin y gallai unrhyw un anghytuno a hynny. Ond beth am "trac record" y Gweinidog ei hun?

O dan y gyfundrefn bresennol mae'r Gweinidog i fod i gymryd penderfyniad o fewn chwe mis i gyhoeddiad swyddogol ynghylch cynllun i gau ysgol. Cyhoeddwyd cynllun i gau Ysgol Landsdowne yng Nghaerdydd er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg ar Fai'r 20fed, 2009. Fe ddylai'r Gweinidog fod wedi cymryd ei benderfyniad erbyn Tachwedd 20fed felly. Does dim penderfyniad wedi bod a does dim arwydd o gwbwl bod un ar fin ymddangos. Y nifer uchel wnaeth wrthwynebu a chymhlethdod y cynlluniau yw'r rheswm yn ôl yr adran addysg.

Mae'r Llywodraeth hefyd yn cyfaddef ei bod yn debyg o fethu cyrraedd penderfyniad ynghylch ad-drefnu ysgolion uwchradd dwyrain Caerdydd erbyn y dyddiad targed sef Mawrth 24ain. Fe ddaw'r penderfyniad "rhywbryd yn ystod tymor yr haf" medd llefarydd. .

Heb os mae'r oedi yma yn achosi'r union ansicrwydd y cyfeiriodd y Gweinidog ato. Mae'n bosib y bydd yn rhaid oedi am flwyddyn ychwanegol cyn cyflwyno'r cynlluniau ac yn ôl undebwyr a gwleidyddion lleol gallai hynny arwain at ddiswyddiadau gorfodol a dirywiad yn safon yr addysg yn yr ysgolion presennol.

Mae Leighton Andrews o hyd yn gymharol newydd yn y swydd, wrth gwrs ac mae'n mynnu nad yw'r cynlluniau eto wedi cyrraedd ei ddesg. Eto , mae'n anodd credu na fyddai'n gallu mynnu bod hynny'n digwydd o fewn byr o dro pe bai'n dymuno gwneud hynny.

Heddiw dywedodd y Ceidwadwyr eu bod yn amau bod y Gweinidog yn oedi'n fwriadol er mwyn osgoi gwneud penderfyniadau amhoblogaidd a allai effeithio'r canlyniadau etholiad yng Ngorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amau bod rhywbeth tebyg yn digwydd yn Abertawe lle mae disgwyl penderfyniad ynghylch cynllun i adrefnu'r ysgolion yn etholaeth Gwyr.
Y tu ôl i'r llenni mae gwleidyddion Plaid Cymru'r un mor gandryll ynghylch y sefyllfa.

Wedi'r cyfan mae'n adlewyrchu'n wael ar bawb yn y Llywodraeth os ydy'r Cabinet yn pwyso ar gynghorau i leihau'r nifer o lefydd gweigion mewn ysgolion ac yna'n llusgo traed pan mae cynghorau'n ceisio gwneud hynny.

* Ar ôl i fi ysgrifennu'r post yma fe gododd AC Plaid Cymru, Chris Franks, yr union bwynt yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'n anodd credu ei fod wedi gwenud hynny'n ddiarwybod i weinidogion Plaid Cymru.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.