Ar y bocs
Gan fy mod wedi gwneud proffwydoliaeth fach ddoe ynghylch maint y gynulleidfa ar gyfer y ddadl deledu gyntaf mae'n well i mi syrthio ar fy mai heddiw.
Fe wyliodd 9.4m o bobol y ddadl ar gyfartaledd. 450,000 oedd y gynulleidfa yng Nghymru neu 34% o'r rheiny oedd yn gwylio teledu ar y pryd.
Roedd nifer y gwylwyr yn weddol gyson yn ystod y rhaglen. Mae hynny'n fy synnu i. Doeddwn i ddim yn disgwyl i gymaint o bobol gwylio'r rhaglen drwyddi draw. Wrth gwrs mae'n bosib bod 'na elfen o "fynd a dod" yn ystod yr awr a hanner. Serch hynny mae 9.4 miliwn ar gyfartaledd yn gythraul o gynulleidfa yn y dyddiau aml-sianel yma.
Doeddwn i ddim chwaith wedi rhagweld y byddai'r arolygon yn awgrymu bod yna "enillydd" amlwg ac mai Nick Clegg fyddai hwnnw. Fe gwawn weld yn ystod y dyddiau nesaf a fydd hynny'n effeithio ar yr arolygon ynghylch bwriadau pleidleisio.
Am wn i, mae "canlyniad" y ddadl yn fwy o broblem i'r Ceidwadwyr nac i Lafur. Mae pobol yn gwybod sut ddyn a sut brif weinidog yw Gordon Brown. Gyda'r ymgyrch Llafur yn canolbwyntio i raddau ar godi amheuon ynghylch David Cameron gallai ei fethiant ymddangosiadol i argyhoeddi fod yn broblem.
Cofiwch os ydych chi am weld llanast go iawn ewch at yr iPlayer a gwyliwch rifyn neithiwr o "Dragon's Eye". Doedd Elfyn Llwyd ddim ar ei orau, a dweud y lleiaf.
SylwadauAnfon sylw
Roedd Elfyn yr un mor wan mewn cyfweliad gyda Mai Davies heno (nos Lun). Pam yw e mor anodd iddo amddiffyn polisi uchafswm cyflog? Dylanwad y 'think tank' asgell chwith Compass ar Adam Price ac eraill sydd i gyfri am y polisi dybiwn i. Mae'n bolisi arbrofol, radical, yn hawdd i'w amddiffyn yn yr awyrgylch gwleidyddol presennol. Ond ni ddylai fod yn y maniffesto os nad yw gwleidyddion y Blaid yn barod i'w amddiffyn. Mae gan y Blaid sawl ymgeisydd ifanc, grymus a'r gallu i apelio'n eang, ond dy'n nhw ddim yn cael eu defnyddio. Mae Ieuan, ac Elfyn yn arbennig, fel pe baent yn perthyn i oes arall. Ar hyn o bryd mae'r Blaid ar lefel genedlaethol yn rhedeg ymgyrch drychinebus.