Argraffiadau - Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Mae'n bryd i ni fynd allan i'r ffyrdd a'r caeau unwaith yn rhagor. I'r gorllewin gwyllt ( neu'r gorllewin gwar- eich dewis chi) yr awn ni'r tro hwn. Aled Scourfield sy'n rhannu ei argraffiadau o'r ornest yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro.
Dyw'r Gorllewin ddim wedi gweld llawer o ymweliadau gan fawrion y pleidiau hyd yn hyn, ond mae Gorllewin Sir Gâr a De Penfro wedi gweld cyfres o wleidyddion Llafur yn galw yn yr etholaeth.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Hilary Benn i gyd wedi ymweld â Gorllewin Cymru. A'r rheswm ?
Mae'r ymgeisydd Llafur, Nick Ainger yn ymladd am ei ddyfodol gwleidyddol. Mae e'n amddiffyn mwyafrif o lai na 2,000, ac mae'r Toriaid yn synhwyro bod 'da nhw gyfle gwych i gipio'r sedd.
Mae strategaeth y Blaid Lafur yn gwbl glir. Maen nhw'n bwriadu ymosod ar y ffaith bod yr ymgeisydd Ceidwadol, Simon Hart yn Brif Weithredwr y Cynghrair Cefn Gwlad, a fod y Toriaid wedi addo pleidlais rydd ar wirdroi'r gwaharddiad ar hela a chwn. Yn ogystal a hynny, mae nhw'n anhapus ynglyn a'r degau o filoedd o bunnau sydd wedi llifo i mewn i goffrau'r Blaid Geidwadol yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Simon Hart wedi ei synnu braidd gan ffyrnigrwydd yr ymosodiad gan y Blaid Lafur. Mae e'n dweud ei fod e'n rhyfeddu fod Llafur wedi penderfynu canolbwyntio ar bwnc sydd yn ei eiriau fe yn "hollol amherthnasol i'r mwyafrif helaeth o bobl."
Mae hi'n anodd darogan sut y bydd y frwydr chwerw yn diweddu gan bod hon yn etholaeth ryfedd. Mae hi'n gybolfa o bentrefi gwledig Cymreig fel Llanboidy a'r Efailwen tua'r gorllewin, a threfi Seisnig fel Dinbych y Pysgod a Saundersfoot yn Ne Penfro, heb anghofio tref Caerfyrddin.
Wrth yrru lawr yr A478 tuag at gylchfan Penblewin, mae hi bron yn bosib gweld yr hen linell Landsger wrth i'r posteri Plaid Cymru droi yn rhai Ceidwadol wrth adael Clunderwen i gyfeiriad Arberth.
Dyna sydd yn ei gwneud hi yn sedd mor ddiddorol. Fe ddaeth Plaid Cymru o fewn ychydig gannoedd o bleidleisiau i gipio'r sedd yn nwy fil a saith yn etholiadau'r Cynulliad. Mae ei hymgeisydd, John Dixon, yn gobeithio manteision ar yr annifyrrwch rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, er bod y cyd-destun etholiadol yn dra gwahanol.
Mae'r ymgyrchu yn galed ac yn ddigyfaddawd. Fe fydd hon yn un o'r seddi i wylio yn oriau mân y seithfed o Fai...
(Mae rhestr llawn o'r ymgeiswyr ar gyfer y sedd ar wefan bbc.co.uk/cymru)
SylwadauAnfon sylw
Diddorol ond lle mae pawb heno. Wedi mynd i'r gwely yn gynnar yntau wedi syrthio i gysgu ???