Argraffiadau Cantre'r Gwaelod (Ynys Môn)
We're all in this together" medd clawr Maniffesto'r Ceidwadwyr. Wel, pawb ond pobol Môn, mae'n ymddangos. Mae'r fam ynys wedi diflannu o'r map o Brydain islaw. Efallai bod Môn o dan y môr a'i donnau o safbwynt y Torïaid ond mae hi dal ar fap y blog yma! Dyma argraffiadau Rhun ap Iorwerth;
"Dwi'n cofio gofyn i ymgeisydd o blaid fechan oedd yn sefyll yn Ynys Mon flynyddoedd yn ol sut yr oedd yn credu yr oedd ei ymgyrch yn mynd. Roedd yn bryderus. Roedd rhai'n dweud y gallai ennill, ac roedd yn ofni am ddyfodol ei fusnes pe bai'n gorfod mynd i San Steffan. Wrth gwrs, ryw 800 pleidlais gafodd o, a cafodd ei fusnes barhau i ffynnu!
Ond os mai breuddwyd ffwl oedd ei freuddwyd o - nodwedd y "first-time candidate syndrome" fel y'i gelwir gan fy nghyfaill ac awdur y blog hwn, Vaughan Roderick - mae Ynys Mon yn gallu bod yn freuddwyd o sedd i rai gwleidyddion, ond yn hunllef i eraill.
Breuddwyd, gan bod pobl yr Ynys wedi profi eu parodrwydd yn y gorffennol i bledleisio dros unrhyw liw gwleidyddol os yw'r ymgeisydd iawn yn dweud y pethau iawn ar yr amser iawn. Gall pob ymgeisydd ei berswadio ei hun mai fo neu hi sydd a'r allwedd i galon yr ynys. Ond mae hynny yn ei dro yn hunllef i'r strategwyr gwleidyddol sy'n ceisio darllen meddylilau pobl yr etholaeth.
Ar bapur, gyda'r Blaid Lafur wedi bod ar drai, y Ceidwadwyr yn dechrau o sylfaen cymharol isel, a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu'n gyson ac ennill tir, Plaid Cymru ddylai fynd a'r sedd y tro hwn.
Ond profodd y cyn aelod Cynulliad Ceidwadol Peter Rogers yn yr etholiad diwetha bod ganddo fo'r gallu i ddylanwadu ar y canlyniad. Pwy a wyr i ba blaid y byddai'r 5000 wnaeth ei gefnogi o yn 2005 wedi pleidleisio pe na bai o'n sefyll. Fe allai efelychu'r gamp y tro hwn. Ond, wrth gwrs, fel y gwr busnes o ymgeisydd slawer dydd, fe fydd yn ei berswadio'i hun y gall o ennill.
Yn sir fwyaf gwyntog Cymru, mae'n rhy gynnar i ddarogan pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu o ran y gefnogaeth i Mr Rogers - ond mi fydd yn glamp o frwydr.