³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhywbeth yn dechrau gydag "A"

Vaughan Roderick | 09:28, Dydd Mawrth, 13 Ebrill 2010

_44584363_wyn_jones.jpgRwy'n amau taw Radio Cymru sydd ymlaen yn y cefndir o gwmpas byrddau brecwast y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma ond os gewch chi gyfle heddiw cerwch draw i'r iPlayer a gwrandewch ar "Today" am ychydig.

Roedd y rhaglen yn cael ei chyd-gyflwyno o Gymru heddiw fel rhan o'r ymdrechion, dybiwn i, i dawelu'r ffrwgwd ynghylch y dadleuon teledu. Yr awr olaf yw'r fwyaf difyr yn enwedig y sgwrs banel reit ar ddiwedd y rhaglen.

Gwnes i ddim clywed y sgwrs i gyd ond roedd amgell lais yn gyfarwydd, Peter Stead a Laura McAllister yn eu plith.

Trafod degawd o ddatganoli oedd y panel ac fe ddigwyddodd y cwestiwn o annibyniaeth godi ei ben. Roedd yr ymateb yn ddiddorol yn enwedig ateb y gwr busnes ar y panel sef David Lea Wilson o "Halen Môn". "Mae hynny ychydig dros y gorwel" meddai, "mae'n rhaid cymryd pethau cam wrth gam".

Nawr, dyw'r arolygon barn ddim yn awgrymu unrhyw gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i annibyniaeth ers sefydlu'r cynulliad. Serch hynny mae'n ymddangos i mi nad yw'r syniad yn cael ei ddiystyru y tu fas i rengoedd Plaid Cymru yn yr un modd ac oedd yn digwydd deng mlynedd yn ôl.

Yn lansiad maniffesto Plaid Cymru bore fe ofynnodd gohebydd SKY pam nad oedd y maniffesto yn trafod y pwnc. Yn anffodus iddo fe, mae annibyniaeth yn cael ei chrybwyll ac roedd Ieuan Wyn Jones hyd yn oed gallu enwi rhif y dudalen!

Ar y llaw arall mae'n wir nad yw'r cwestiwn cyfansoddiadol yn ganolog i ymgyrch Plaid Cymru yn y ffordd y mae wedi bod ym mhob un etholiad cyffredinol arall yn ei hanes. Nid swildod yw'r rheswm am hynny, dybiwn i. Yn hytrach mae'n ymgais osgoi drysu'r etholwyr ar drothwy'r refferendwm at gynyddu pwerau'r cynulliad.

Fel dywedodd y dyn busnes ... "cam wrth gam".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:16 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd cath:

    Oni chlywaist ti ynganiad Sara Montagu o Halen (fel yn Van Halen) Môn (fel yn Monmouthshire)?

  • 2. Am 20:35 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Do, ond dwi wedi clywed pethau llawer gwaith! Anghofia i fyth "Pon -ar-duw- leu" am Bontarddulais.

  • 3. Am 23:05 ar 14 Ebrill 2010, ysgrifennodd myn yffach:

    be ddiawl sy'n neud i ti feddwl mai ar radio cymru y mae darllenwyr y blog 'ma'n gwrando amser brecwast??

    5live p'nawn ma - Pontyclunes (brawd Martin?)

    a Tremmudog am Dremadog

    s'dim canllaw ynganu i gal de??

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.