Arolwg barn... a sibrydion
Mae polau'n bethau prin yng Nghymru. Mae'n werth cael golwg ar rhain felly sef y ffigyrau "rhanbarthol" o arolwg Politics Home/YouGov.
586 yw'r sampl Gymreig. Mae angen pot o halen Môn felly ond dyma'r ffigyrau o gymharu ag wythnos ddiwethaf.
Llafur 43 33(-9)
Ceidwadwyr 21 26 (dim newid)
Dem. Rhyddfrydol 18 26(+11)
Plaid Cymru 13 8(-2)
Mae'r manylion yn . Roedd y ffigyrau gwreiddiol ar y gwefan yn anghywir er bod y symudiadau'n gywir. Dyna yw'r rheswm am y croesi allan. Diolch i bawb wnaeth dynnu fy sylw at y newid.
A nawr y sibrydion...
Mae Plaid Cymru yn casglu tystiolaeth bod un o'r pleidiau eraill yn dweud wrth etholwyr nad yw Plaid Cymru yn dymuno derbyn pleidleisiau Saeson. Cyhuddiad difrifol iawn ac anodd i brofi os ca' fi ddweud.
Wrth alw heibio yn estyniad dros dro Tŷ Gwynfor sylwais fod arwyddion ac enwau etholaethau arnynt ar nifer o ddrysau caeedig. Beth sydd tu ôl i'r drysau hynny? Banciau Ffon? Deunydd glanhau? Does neb yn dweud. Un cwestiwn arall. Llanelli? Oce. Ynys Môn? Oce. Ond Castell Nedd?
Mae pencadlys y Democratiaid Rhyddfrydol "Rhyddid Canolog" mwy neu lai drws nesaf i un Blaid Cymru.
Roedd y lle'n edrych yn reit dawel heddiw er i mi weld postmon yn galw heibio.
O leiaf rwy'n meddwl mai postmon oedd e! Ar y llaw arall gallwn fod yn sicr mai cadno go-iawn sydd yn y llun yma.
SylwadauAnfon sylw
Pa plaid mae plaid cymru yn casglu tystiolaeth amdano??? os mae pleidiau yn dweud gallwn nhw ddim pleidleisio i plaid oherwydd nhw ddim yn derbyn pleidlesau saesneg ydy hwn yn erbyn y gyfraith??
mae adam price yn sefyll ir plaid blwyddyn nesa neu a ydy plaid yn mynd i ennill neath pwy a wyr
Pa un yw'r cadno?
Ydw i wedi camddeall rhywbeth? Mae'r ffigyrau a wela i ar y wefan yn hollol wahanol sef: Ceid 26 Rhyddf 26 llafur 33 a PC 8.
Mae dy ffigyrau di yn wahanol i'r manylion. Pam?
Na, mi wyt ti'n iawn. Y ffigyrau wnes i rhoi oedd y rhai oedd ar y gwefan yn wreiddiol. Roedd y newidiadau yn gywir ond y ffigyrau pleidleisio yn anghywir, mae'n debyg. Eu camgymeriad nhw, nid fi ond efallai y dylwn i wedi bod yn fwy gofalus. Diolch i ti ac fe wna i newid y post.
Newydd ddechrau darllen y blog yma. A dwi'n credu y bydd rhaid rhoi'r gorau iddi yn syth bin os na allwch chi wneud rhywbeth ynghylch y llinell agoriadol yna:"David Jones ysgrifennodd" neu "Doris ysgrifennodd" wir.
All eich pobl dechnegol ddim dysgu'r cyfrifiadur i ddweud "ysgrifennodd David Jones" etc?!
Dydw i ddim yn ramadegydd. Fe fyddai "ysgrifennodd XXXX" yn well ac fe wna i wneud y pwynt i'r bobol berthnasol. Yn sicr mae'r drefn eiriau'n anarferol. Dydw i ddim yn sicr os ydy hi'n ramadegol anghywir.
Harold, Gofynnwch a chwi a gewch!. Fe ddylai sylwadau ymddangos fel "ysgrifennodd xxxx" o hyn ymlaen.
Os dylan ni gymryd hwn efo pinsiad o halen, beth am yr arolwg gafwyd wythnos diwethaf? Oedd hwnnw'n fwy dibynadwy neu ydi'r un peth yn wir?
Roedd sampl ITV/YouGov yn fwy. Mae angen yr un pot o halen i ffigyrau Politics Home wythnos ddiwethaf.
A yw'r sibrydion dwi'n glywed o Sir Drefaldwyn yn wir tybed?
Mae sawl ffynhonnell wedi awgrymu fod Heledd Fychan yn rhedeg yn ail cryf iawn yn yr etholaeth, a fod pleidlais Lembo druan ar chwal. Mae ffynonellau o'r blaid geidwadol wedi awgrymu fod pleidlais Glyn Davies yn cadw'n gyson.
Mae ffynhonnell dibynadwy arall wedi awgrymu fod Aberconwy y tu hwnt i gyrraedd Plaid eleni, ac mae Guto Bebb eith a hi. O ganlyniad mae disgwyl i'r blaid dynnu adnoddau allan o Aberconwy yr wythnos hon, a sianelu ei holl ymdrechion ar Geredigion.
11. Clebryn - dwi'n amau fod yr hyn ti'n ddweud am Aberconwy'n wir. Clywed pethau cadarnhaol tu hwnt am ymgyrch Phil Edwards. Ti'n sicr yn iawn i awgrymu mai ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a'r Toriaid yw hi er hynny.....
Dwi hefyd wedi clywed bod y Blaid yn ffyddiog yn Aberconwy, ond debyg bod Ceredigion yn darged nid yn unig mwy cyrraeddadwy, ond pwysicach, i Blaid Cymru, felly byddai'n gwneud synnwyr dargyfeirio adnoddau os taw dyma'r sefyllfa. Ond os ydi hyn yr wyt yn ei ddweud yn wir, mae'n siomedig bod y Blaid yn ildio Aberconwy, ond mae hefyd yn awgrymu'n gryf efallai nad ydi'r Blaid yn hyderus iawn yng Ngheredigion chwaith a bod wir angen yr adnoddau ychwanegol arni yn yr etholaeth.
Does dim dwywaith mae twf yng nghefnogaeth genedlaethol y LibDems sydd wedi annog Plaid Cymru i ail-gyfeirio adnoddau prin i Geredigion. Ar ol sgwrsio a nifer o aelodau gwerin gwlad yn rali'r blaid yn Aberystwyth ddydd sadwrn, fe ddes i ar draws nifer o aelodau oedd yn synhwyro mae ras Mark Williams oedd hi i golli.
Mi ydw i'n synnu fod Plaid am dynnu adnoddau o Aberconwy. Ar bapur fe ddylia'r etholaeth hon fod o fewn cyrraedd i Blaid Cymru. Mae Phil yn ymgeisydd heb ei ail. Ond, i ategu at yr hyn ddwedes i yn gynharach, fy nealltwriaeth i o sawl ffynhonnell dibynadwy mae Guto Bebb sydd am fynd a'r sedd yma ar Fai'r 6ed.
Mae Llanelli yn stori arall serch hynny...!
Wedi cael e-bost gan Plaid heddiw yn gofyn i aeloda ar draws Cymru i ddod draw i Aberconwy i gynnig awr neu ddwy o gymorth i ymgyrch Phil.
Ddim yn swnio fel ildio i mi.
Wedi bod draw i Aberconwy ambell i waith, ac mae'r ymateb i ymgyrch Phil Edwards yn hynod, hynod o bositif!
Mae'r bleidlais Lafur ar chwal gyda hen Lafur yn dod drosodd i'r Blaid; ar y llaw arall mae nifer o geidwadwyr traddodiadol yr wyf fi wedi siarad a nhw ar y stepen drws yn gefnogol i Phil Edwards hefyd!
Gyda Paddy Power yn cynnig 5/1 ar Phil Edwards, mae'n sicr yn werth bet fach!
Does dim tystiolaeth chwaith fod y Blaid yn tynnu adnoddau oddi yno - rodd criw cadarn allan yn canfasio yno ddoe.
Ynghylch Ceredigion, gyda bod Llafur a'r Toris wedi cyrraedd eu hisafswm tebygol o bleidleiswyr yn 2005, a chyda thwf tebygol ym mhleidlais y toris eleni, o ble y mae'r Libs am gael y nifer angenrheidiol i ennill y tro yma?
Mae gan y Blaid ymgeisydd pen i gamp yno sydd a rhwydwaith eang o gefnogwyr ar hyd y sir. er gwaethaf cefnogaeth y cyfryngau torfol i'r Libs a'r ddwy blaid arall, mae gobeithion y Blaid yn gryf iawn yng Ngheredigion!
Cytunaf fod pleidlais y Toriaid a Llafur yn debyg o fod yn wan yng Ngheredigion. Yr oeddwn yn rali Plaid Cymru yn Aberystwyth ddydd Sadwrn .
Rali ardderchog -ond- o ystyried y 'trymion' go iawn oedd yn siarad , eithaf siomedig oedd y nifer. Mae llawer mwy o sticeri ayb Rhyddfrydwyr y tro hyn. Credaf y bydd yr wythnos olaf yn frwydyr chwerw iawn , dim ots beth a ddigwydd. Drwy gyd-ddigwyddiad, sarhawyd cenedlaetholdeb drwy roi graffiti ar ben graffiti eiconig 'Cofiwch Dryweryn ' . Ofnaf y bydd y graffiti newydd yn fwy dealladwy i drwch pobl yr ardal yma.
Diddorol yw'r sylw bod cefnogwyr hen lafur yn mynd drosodd i Blaid Cymru.
SO Davies oedd fy AS cynta i, a wi'n meddwl amdano yn aml fel patrwm o'r math o gynrychiolwyr y mae arnon ni eu hangen. Cawr o sosialydd a Chymro ac un digon annibynnol ei farn a digon agored i gyd-ymgyrchu â phleidiau eraill.
Mae'n drueni dros gefnogwyr Llafur sy wedi cael eu cymryd yn ganiataol a'u siomi ers cenedlaethau. Mae angen cnoco pennau arweinwyr Hen Lafur Cymru a Phlaid Cymru at ei gilydd i gydweithio'n well ac atal pleidiau'r aden dde - sef Llafur Newydd, y Toris a'r Rhyddfrydwyr.
Yn nifri calon, faint o ' Hen Lafur ' sydd ar ol ???
Y rhain oedd y deinasoriaid twyllodrus, gwrth-Gymreig a wnaeth dagu'r cymoedd am hanner canrif. Peidier neb a bod yn hiraethus am y sosialwyr honedig yma. Gwynt teg ar eu hol.
Ond o blith y deinosoriaid y daeth ysgolion Cymraeg Morgannwg, a Gwent wedyn, i fod yn deg.
Hen Lafur oedd Jim Griffiths, Cledwyn Hughes, Denzil Davies a'u tebyg hefyd, a Ron Davies a Rhodri Morgan wedyn.
Ond ta beth, am y pleidleiswyr hen Lafur ron i'n meddwl, sy wedi cael eu siomi a'u cymryd yn ganiataol.