Colli Iaith
I ffwrdd o'r bwrlwm etholiadol mae'r cynulliad yn cwrdd heddiw gan gofio, yng ngeiriau Dafydd Elis Thomas bod 'na "ddim etholiad yn digwydd yn fan hyn".
Busnes fel arfer, felly, a busnes reit bwysig hefyd gyda'r llywodraeth yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg.
Roedd hon yn garreg filltir bwysig i'r Gymraeg yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews. Yn sicr roedd heddiw yn garreg filltir bersonol i Leighton, sy'n ddysgwr, wrth iddo ddewis traddodi'r cyfan o'i ddatganiad hirfaith yn yr iaith.
Pam ar y ddaear felly y gwnaeth llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, sy'n Gymro Cymraeg naturiol, ddewis ymateb yn Saesneg?
SylwadauAnfon sylw
Chwarae teg i Leighton Andrews. Dydy siarad mewn ail iaith ddim yn hawdd.
Edrychaf ymlaen i ddarllen y ddogfen gan obeithio ei fod yn cynnig strategaeth glir a hyderus i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg fel y gwnaeth polisiau addysg Llundain sicrhau twf yr iaith Saesneg yng Nghymru.
Gobeithio hefyd y caiff y strategaeth ei weithredu ... na fydd yn hel llwch ymhen rhai misoedd.
Llygedyn o obaith yn wyneb symudiad y bleidlais wrth-Gymraeg i'r LibDems yn fy rhan i o'r byd.
Chwarae teg i Leighton Andrews am wneud hyn. Byddai'n sicr wedi cymryd gryn hyder i wneud a fath beth, gobeithio nad yw ymateb cwbl anfaddeuol Paul Davies wedi dad wneud y gwaith da hwn o ran Mr Andrews. Yn anffodus mae ymateb Paul Davies yn 'typical' o llawer, os nad y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg sy'n rhy ddiog i weithio gyda dysgwyr i'w cynorthwyo.
Prawf arall os oes angen un bod rhan fwyaf o'r bai ynglÅ·n a'r diffyg defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yng Nghymru yn eistedd wrth draed ni'r Cymry Cymraeg.
Da iawn Leighton, cywilydd ar Paul Davies.
Tybed ai arwydd o agweddau cefnogwyr Paul Davies oedd ei ddewis iaith, yn hytrach nag amharch (neu ddiogi) tuag at ddysgwr? Wi'n siwr taw dyna oedd rheswm Rhodri Morgan dros ddefnyddio gymaint ar y Saesneg, ac o weld defnydd "Anwiredd Cymru" a'u bath o'r iaith i hala ofn ar bobl, byse dim syndod i weld gwleidyddion yn ware'n saff dros yr wythnosau nesaf.
Ond mae agwedd Cymry Cymraeg tuag at ddysgwyr yn gallu bod yn anodd i'w deall, hefyd. Roedd ffrind i fi yn ardal Aberystwyth yn siarad gydag athrawes ei mab. Dysgwraig yw hi, ac o'n nhw'n trafod polisi newydd yr ysgol o alw rhieni miwn am "chat" bach os yw eu plant yn siarad Saesneg yn yr Ysgol. Cymraeg oedd fy ffrind yn siarad, a'r athrawes yn mynnu cynnal ei hochr hi o'r sgwrs yn Saesneg.