Llygaid sgwâr
Fe wnaeth ryw dair miliwn a hanner o bobol wylio'r ddadl rhwng Gordon Brown , David Cameron a Nick Clegg neithiwr gyda 2,125,000 yn gwylio Sky a 1,362,000 yn gwylio ar sianel newyddion y ³ÉÈËÂÛ̳. Mae hynny'n gynulleidfa aruthrol i'r sianeli digidol. Yng Nghymru roedd y gynulleidfa'n 240,000 sy'n deirgwaith cynulleidfa dadl yr arweinwyr Cymreig ar ITV.
Fe gododd Mabon bwynt diddorol mewn sylwad y dydd o'r blaen sef y ffordd nad yw'r cyfryngau yng Nghymru yn talu sylw i raglenni dadlau ei gilydd. Oherwydd hynny meddai dyw'r rhaglenni hynny ddim yn gyrru'r agenda yn yr un modd a'r rhai Prydeinig. Fel mae'n digwydd fe gafodd dadl Gymreig Sky rhywfaint o sylw gan ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru ond dim byd cyffelyb i'r dadleuon Prydeinig
Mae'n debyg bod pwynt Mabon yn rhywbeth y bydd yn rhaid ystyried ar gyfer y dyfodol ond mae 'na ffactor arall ar waith, fe dybiwn i.
Y gwir amdani yw does na ddim byd arbennig o newydd ynghylch y dadleuon Cymreig. Mae rhaglenni tebyg wedi cael eu darlledu ers oes pys. Hwyrach na fydd ddadleuon Prydeinig yn y dyfodol yn denu cynulleidfaoedd mor fawr ar ôl colli sglein newydd-deb.