Maths Môn
Un o ganlyniadau twf y pleidiau llai a'r nifer cynyddol o ymgeiswyr annibynnol yn etholiadau cynulliad yw bod hi'n bosib ennill sedd etholaeth gyda chefnogaeth canran fechan iawn o'r bleidlais. Etholwyd Lesley Griffiths yn Wrecsam er enghraifft gyda 28.8% o'r bleidlais.
Dydw i ddim am fynd trwy bob tudalen o "Etholiadau'r Ganrif"- beibl ystadegol Beti Jones ond rwy'n amau nad oes aelod seneddol wedi ei ethol yng Nghymru gyda chanran mor fach o'r bleidlais. Rwy'n amau hefyd y gallai hynny ddigwydd y tro yma a'r sedd sydd gen i mewn golwg yw Ynys Môn.
Enillodd Albert Owen dro diwethaf gyda 34.6% Plaid Cymru oedd yn ail gyda 31.1%. Derbyniodd Peter Rogers a'r Ceidwadwyr canrannau yn yr arddegau gyda'r Democrat Rhyddfrydol yn bumed gyda 6.8%, un o'u canlyniadau gwaethaf ym Mhrydain.
Mae'r arolygon Prydeinig yn awgrymu bod y cynnydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol o gwmpas 10%. Os ydy hynny'n digwydd ym Môn mae'n hawdd dychmygu ymgeisydd yn ennill ar yr yn ynys gyda llai na 30%.
Beth am fynd un cam ymhellach a gwneud un o'r proffwydoliaethau "jyst am sbort" yna fel y rhai yr oedd Peter Snow yn gwneud ar raglenni isetholiad ers talwm? Chi'n cofio nhw, rwy'n siŵr- y proffwydoliaethau yna oedd yn dangos y byddai rhyw blaid neu'i gilydd yn ennill pum cant o seddi ar sail gogwydd mewn isetholiad.
Beth os oedd y symudiadau a awgrymwyd yn arolwg YouGov/ITV Cymru yn cael eu hadlewyrchu ym Môn? Dyma fyddai'n digwydd.
Plaid Cymru; 27.5
Llafur; 24.9%
Dem. Rhydd.; 17.4%
Annibynnol; 14.7%
Ceidwadwyr; 12.6%
Fel dywedais i. Jyst am sbort ac os ydy'r Democrataid Rhyddfrydol yn defnyddio'r ffigyrau yna ar gyfer "bar chart" fe wna i siwio!
Mae rhestr o'r ymgeisywr yn .
SylwadauAnfon sylw
Dwi wedi bod yn meddwl y gallai rhywun ennill ym Mon gyda llai na 10,000 o bleidleisiau. Yr hyn sydd yn anodd ei ddarogan yw pwy fydd yn colli'r lleiaf o bleidleisiau Llafur neu'r Blaid. Mae trefniadaeth y Blaid yn well ond mae yn anodd darllen effaith y dadleuon teledu. Mae llai o dan yn ymgyrch Peter Rogers ac yntau yn 70oed ac wedi bod yn sal mae'r cyfle gorau wedi bod ac fe fydd yn anodd iddo gyrraedd yr un lefel a'r tro diwethaf yn sgil hyn dwi yn meddwl y bydd y Ceidwadwyr yn uwch ac mae pawb yn disgwyl ymchwydd i'r Lib Dems. Dwi yn amau y gall hon fod yn etholaeth ddiddorol i'w gwylio ond ras dau geffyl sydd yma yn ol yr arfer