Mick Mas
Fe ddylai heddiw fod yn ddiwrnod i'r brenin i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil perfformiad Nick Clegg ar y ddadl deledu. Yn anffodus roedd aelodau'r blaid yn gwybod bod 'na gwmwl ar y gorwel. Doeddwn i ddim yn gallu dweud hyn ddoe ond roedd 'na reswm am lansiad byrfyfyr a di-nod maniffesto Cymreig y blaid.
Heddiw oedd y lansiad i fod. Cafodd ei hail-drefnu ar ôl i'r blaid glywed bod Mick Bates wedi ei alw i swyddfa'r heddlu heddiw. Ychydig funudau yn ôl fe ryddhaodd y blaid y datganiad yma;
"This afternoon, Mick Bates was told by South Wales Police that he will be summonsed at a future date for various offences following an incident in Cardiff on 20th January.
"The Welsh Liberal Democrats regard this matter with the utmost seriousness. Therefore, Mr Bates' membership of the Welsh Liberal Democrats has been suspended, pending the outcome of the case."
Mae Heddlu'r De wedi rhyddhau'r datganiad yma;
"Heddiw mae'r heddlu wedi siarsio dyn 62 oed o'r Trallwng i ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ymosod a chyhuddiadau eraill yn ymwneud ac anrhefn gyhoeddus."