³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar Agor

Vaughan Roderick | 17:31, Dydd Iau, 6 Mai 2010

5.30; Yddiheuriadau aeth y cynlluniau blogio byw yn rhemp braidd! Fe wan i ysgrifennu rhywbeth call pan ca'i gyfle.

01.40 Canlyniadau Cymru'n dod yn gyflym nawr... dihangfa i lafur yn fan hyn...beth fydd y patrwm yn Lloegr?

01.30 Maldwyn a Gorllewin Caerfyrddin yn agos

01.15 Llafur yn hyderus yn Llanelli

01.07 Llafur am gadw Dyffryn Clwyd

01.05 Llafur yn hyderus yng Ngorllewin Caerdydd a Gorllewin Casnewydd Mae heno'n noson da iawn iawn i Llafur Cymru... neu felly mae'n ymddangos

00.45 Maldwyn yn agos medd y Ceidwadwyr

00.40 Suzy Davies yn cyfaddef nad yw hi wedi ennill B+M

00.25 Julie Morgan ddim am ildio eto yng Ngogledd Caerdydd ond yn cyfaddef nad yw'n edrych yn addawol.

00.20 Llafur yn credu ei bod wedi cadw Wrecsam

0016; Mwy o sibrydion Pethau'n agos yn Arfon...Llafur am gadw De Clwyd PC yn disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol gynyddu mwyafrif yng Ngheredigion

0.15; Sibrydion bod Llafur wedi ail-gipio Blaenau Gwent

23.55 Os ydych chi'n pendroni pam y mae pethau mor araf rheolau newydd ynghylch y bleidlais bost sy'n gyfrifol. Fe fydd y llifddorau'n torri am 1.00!

23.45 Golwg 360 yn awgrymmu bod Ceredigion yn addawol i Blaid Cymru

23.33 Llanelli yn agos iawn medd Nia Griffith

23.15 Llafur yn hyderus bod Albert Owen wedi cadw ei sedd

23.07; Gogwydd o 7% i'r Toriaid yn Lloegr ...mae Dicw a finnau o hyd yn amheus

23.05 Arolwg y darlledwyr yn agwrymmu gogwydd I Lafur yng Nghyrmu a'r Alban!!!

2230 Sibrwd bod Wrecsam yn ras agos tair ffordd

2215 Richard Wyn a finnau'n amheus iawn ynghylch y canlyniad.

10.00

Ceidwadwyr 307
Llafur 255
Dem Rhydd 59
Eraill 29

Dyna broffwydoliaeth y ³ÉÈËÂÛ̳ felly. Yn 2005 roedd yr arolwg yn gwbl gywir o safbwynt maint y mwyafrif Llafur er ychydig ar gyfeiliorn ynghylch nifer seddi'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Does dim sicrwydd y bydd yr arolwg yn un mor gywir y tro hwn. Mae 'na adrefnu ffiniau wedi bod a gallai ffactorau lleol megis treuliau seneddol y cyn aelod lleol fod yn ffactor.

Ar ben hynny mae 'na deimlad cyffredinol bod hwn yn etholiad od. Dyma i chi enghraifft. Y prynhawn yma roeddwn i yn Radur, un o faes-drefi mwyaf cefnog Caerdydd. Prin oedd y posteri Ceidwadol ond llwyth o rai Llafur. Yr ochor draw i'r mynydd yng ngwm Aber yn etholaeth Caerffili dim ond un poster Llafur oedd i weld o gymharu â bron i gant o rai Plaid Cymru. Nawr mae'r arolwg yn lot fwy gwyddonol na chyfri posteri. Dim ond dweud ydw i bod 'na olygfeydd rhyfedd o gwmpas y lle yn yr etholiad hwn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:27 ar 6 Mai 2010, ysgrifennodd Tegwared:

    Fydd hwn yn flogiad byw, Vaughan? Os felly - plis oes modd rhoi'r diweddariadau ar ben y cofnod? G'neud bywyd yn llawer haws ar ôl ail-lwytho'r dudalen. Mawr ddiolch!

  • 2. Am 22:34 ar 6 Mai 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Cytuno mae na ffactorau lleol i'w hystryied.Dwi yn gweld ffigwr y Libs yn rhy isel a rhaid cofio fod y darogan am turn out uchel i weld yn gywir fydd yn debygol o ffafrio Llafur. Rhaid bod yr exit wedi ei gwblhau yn eithaf cynnar pryd y byddai Ceidwadwyr yn fwy tebygol o bleidleisio.

    Deall fod nifer y myfyrwyr yn pleidleisio yn Mangor ac Aberystwyth yn uwch na etholiadau blaenorol. Dim yn saff os y caiff effaith ym Mangor ond fe all fod yn arwyddocaol yn Aber ?

    Mae'r ansicrwydd yn parhau.

  • 3. Am 22:59 ar 6 Mai 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Maldwyn yn ddiddorol iawn yn ôl un sylw ar fy mlog - wedi clywed unrhyw beth?

  • 4. Am 23:02 ar 6 Mai 2010, ysgrifennodd Dafydd Edwards:

    Cym on Vaughan, blogia!

  • 5. Am 11:06 ar 7 Mai 2010, ysgrifennodd Huw:

    Y canlyniad yma (11.00 bore Gwener)ydi'r cyfiawnhad sylfaenol dros ddatganoli ac yn amlwg yn cryfhau'r ddadl dros ymestyn pwerau'r Cynulliad yn y refferendwm.

  • 6. Am 16:10 ar 7 Mai 2010, ysgrifennodd Daniel:

    Mae'r Dems a'r Toriaid yn dechrau cyngrheirio. Carwyn Jones fydd y Llafurwr mwyaf dylanwadol ym Mhrydain, gyda'r SNP mewn llywodraeth yn yr Alban, a Tory/Lib yn Llundain. Mae'n werth ystryried goblygiadau hynny.

    Mae meddwl am y Dems Rhydd yn cyd-gyflwyno toriadau'r Toriaid yn fel ar fysedd Llafur a Plaid Cymru dybiwn i.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.