³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twll a Chornel

Vaughan Roderick | 18:02, Dydd Gwener, 7 Mai 2010

_36625023_bigben_bbc150.jpgYmddiheuriadau eto bod y blogio wedi mynd braidd yn drech na mi yn ystod y dydd heddiw. Ar ôl llwyddo i flogio'n llwyddiannus yn ystod etholiad 2007 roeddwn yn hyderus y gallwn i wneud yr un peth y tro hwn. Yn y diwedd fe aeth y llif aruthrol o ganlyniadau a newyddion yn drech na mi.

Fel yn yr etholiad ei hun fe brofodd y teledu yn drech na'r we! Dyna fy esgus i, o leiaf!

Mae 'na ddigon gen i ddweud am y canlyniadau a'r hyn sy'n debyg o ddigwydd nesaf ond mae un peth am y canlyniadau Cymreig sy'n hynod ddiddorol i mi.

Er bod Llafur wedi ennill ei siâr isaf o'r bleidlais mewn etholiad cyffredinol ers 1918. Mae'r canlyniad o safbwynt seddi yn un ddigon tebyg i ganlyniadau etholiadau cyffredinol eraill yng Nghymru yn y degawdau ers i Blaid Cymru sicrhau cynrychiolaeth seneddol yn Chwefror 1974. Gyda Llafur ar y blaen yn gysurus, y Torïaid yn ail a Phlaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr mwy neu lai yn gydradd go brin y gellir galw'r etholiad yn un hanesyddol neu hyd yn oed yn un anarferol.

Beth sydd yn anarferol yw'r gagendor rhwng yn hyn ddigwyddodd yng Nghymru a'r hyn ddigwyddodd yn Lloegr. Mae'n werth bod yn eglur yn fan hyn. Pe bai Ceidwadwyr Cymru wedi perfformio yn unol â'u disgwyliadau fe fyddai hi'n gwbwl amhosib i Lafur hyd yn oed ystyried ffurfio llywodraeth.

Yn y cydestun hwnnw mae'n werth cymryd cipolwg ar ganlyniadau Lloegr.

Ceidwadwyr 297
Llafur 191
Dem. Rhydd. 43
Gwyrdd 1

Hwn yw'r tro cyntaf ers datganoli i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif o seddi Lloegr a hynny'n fwyafrif o dros gant.

Mae hynny'n codi cwestiynau cyfansoddiadol dyrys i bob un o'r pleidiau Prydeinig ond yn fwyaf arbennig ar hyn o bryd i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Beth fyddai ymateb trigolion Lloegr pe bai'r blaid yn cynnal Prif Weinidog Llafur yn groes i ewyllys etholwyr y wlad honno?

Ar y llaw arall beth fyddai ymateb pobol Cymru, a hyd yn oed yn fwy'r Albanwyr, pe bai Nick Clegg yn rhoi allweddu rhif deg i David Cameron?

Gwellir dadlau bod y Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y sedd yrru ar hyn o bryd. Mae'n bosib dadau hefyd eu bod nhw mewn tipyn o gornel.

Mae'n werth cofio bod yr ymdrechion i sefydlu llywodraeth yr "enfys" yn y cynulliad wedi methu oherwydd gwrthwynebiad rhai o'r Democratiaid Rhyddfrydol i gydweithio a Cheidwadwyr y cynulliad. Yn eu plith roedd Kirsty Williams sydd nawr yn arwain y blaid Gymreig.

Beth fyddai ei ymateb hi i ddel a'r Torïaid yn San Steffan- yn enwedig o gofio yr effaith tebygol ar gefnogaeth y blaid yn ei seddi targed yn 2011?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:02 ar 7 Mai 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Dwi yn meddwl y byddai llawer o Lib Dems yn hoffi bod y Ceidwadwyr yn gwrthod ei dymuniadau gan y byddent yn gallu cael cymaint mwy gan Lafur. Dwi ddim yn gweld y Ceidwadwyr yn barod i gynnig diwygio'r system bleidleisio all y Lib Dems ddim derbyn cynnig sydd heb ymrwymiad clir i newid pethau. Os na fydd pethau yn gweithio allan mae perygl i'r Lib Dems heb PR ddiflannu i ebargofiant yn yr etholiad nesaf

  • 2. Am 21:05 ar 7 Mai 2010, ysgrifennodd Emyr:

    Er gwaetha'r diffyg blogio, ga'i fod mor hy a chanmol y rhaglen etholiadol neithiwr?

    Fel arfer yn ty ni mi fydd rhaglen etholiadol S4C yn rhyw fath o angor, a byddwn fel teulu yn drifftio rhyngddi a sianelau eraill ar noson etholiad San Steffan. Ond y tro hwn, 'roedd y rhaglen gystal, fel mai dim ond am ryw gwta eiliadau unwaith bob awr y trodd ein teledu ni i sianelau eraill, a hynny dim ond er mwyn cael gweld beth oedd y cyfanswm canlyniadau ar lefel Brydeinig.

    Bues i'n meddwl pam fod hyn. Y prif reswm dwi'n meddwl oedd fod yno gystal a chynifer o ohebwyr huawdl, deallus a gwybodus, gan gynnwys llawer o wynebau newydd, yn yr etholaethau / cyfrifon.

  • 3. Am 22:33 ar 7 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch o galon, Emyr. Roeddem yn defnyddio technoleg newydd i fod mewn llawer mwy o neuaddau cyfri y tro hwn. Roedd 'na ansicrwydd ynghylch y dechnoleg felly ni fu brolio amdani o flaen llaw. I raddau helaeth i Guto Thomas y mae'r diolch er fy mod wedi diawlio ei absenoldeb yn ystod yr ymgyrch!

    Ar gyfer y llyfrau hanes mae'n werth nodi mai hwn oedd y troi cyntaf erioed i ganlyniad Meirion gael ei ddangos yn fyw. Hwnnw oedd y talcen caletaf ers cyn cof!

  • 4. Am 10:56 ar 8 Mai 2010, ysgrifennodd Idris:

    Cytuno efo sylwadau Emyr. A heb fod isho seboni, dwi'm yn meddwl y gellid cael tim mwy gwybodus ac awdurdodol na Dewi Llwyd, Richard Wyn Jones a Vaughan ar unrhyw sianel. Dwi'n teimlo'n flin dros y di-Gymraeg eu bod yn colli allan!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.