Codi Gobeithion
Mae canfyddiad yn bopeth mewn gwleidyddiaeth ac yn amlach na pheidio mae canfyddiadau yn seiliedig ar ddisgwyliadau. Os ydy plaid yn gwneud yn well na'r disgwyl mewn etholiad bernir ei bod wedi cael 'etholiad da' os ydy hi'n methu cwrdd â'r disgwyliadau, gwae hi!
Y Tori o Gasnewydd Kenneth Baker oedd meistr y gêm ddisgwyliadau. Mae sawl hen law gwleidyddol yn cofio hyd heddiw y ffordd y gwnaeth e lwyddo un tro yn yr wythdegau i argyhoeddi pawb mai'r unig etholiadau lleol oedd yn cyfri oedd y rheiny yn Wandsworth a Westminster.
Eleni fe wnaeth dwy blaid gam-chwarae'r gêm. Go brin y gellir beio'r Democratiaid Rhyddfrydol am hynny. Wedi'r cyfan doedd disgwyliadau'r blaid ynghylch ei pherfformiad ddim yn wahanol iawn i ddisgwyliadau pawb arall. Nid y blaid wnaeth greu'r 'heip' er ei bod yn ddigon parod i loddesta arni.
Ar y llaw arall fe wna i'ch atgoffa o'r hyn ddwedais i rai dyddiau yn ôl;
"Mae'r ffin rhwng hyder, sy'n llesol i blaid, a "hubris", sy'n gallu bod yn ddamniol, yn aneglur weithiau... A fydd honiadau Nick Clegg yn ymddangos yr un mor chwerthinllyd â honiadau'r Cynghrair ynghylch 'torri mold gwleidyddiaeth Prydain'?"
Rwyf wedi bod yn anghywir ynghylch sawl peth yn yr etholiad yma ond roeddwn i'n iawn i ofyn y cwestiwn yna ac mae wedi ei ateb bellach.
Mân bethau oedd camgymeriadau'r Democratiaid Rhyddfrydol o gymharu â'r smonach lwyr wnaeth Plaid Cymru o'r gêm ddisgwyliadau.
Fe ddywedais i ddoe bod canlyniad yr etholiad yng Nghymru yn un gweddol arferol ac mae Plaid Cymru wedi bod yn ddigon bodlon gyda thair sedd ac oddeutu deuddeg y cant o'r bleidlais mewn sawl etholiad yn y gorffennol.
Roedd Ceredigion yn drychineb i'r Blaid a Môn ac Aberconwy yn ganlyniadau siomedig ond fe fyddai hi wedi bod yn bosib sbinio'r etholiad fel un llwyddiannus pe na bai'r blaid wedi codi disgwyliadau. Roedd canlyniadau Llanelli, Dwyrain Caerfyrddin ac ambell i sedd yn y cymoedd yn ddigon addawol ac yn rhoi modd i'r blaid bortreadu'r etholiad fel llwyddiant. Anodd oedd gwneud hynny ar ôl addo cymaint.
Yr enghraifft orau o'r pwynt yma yw etholaeth newydd Arfon.
Fel ym mhob etholaeth arall sydd â ffiniau newydd fe luniodd yr academyddion Rallings a Thresher amcangyfrif o beth fyddai'r canlyniad yn yr etholiadau diwethaf. Rhain yw'r 'notional results' sy'n cael eu defnyddio gan newyddiadurwyr.
Yn achos Arfon fe wnaeth Rallings a Thresher farnu y byddai Plaid Cymru wedi ennill y sedd yn hawdd yn etholiad cynulliad 2003 ac y byddai Llafur wedi ei hennill o drwch blewyn yn etholiad seneddol 2005.
Fe brofodd etholiad cynulliad 2007 bod amcangyfrif 2003 yn weddol gywir gan fod canlyniad go-iawn Arfon yn dangos gogwydd bychan i Blaid Cymru, un oedd yn debyg iawn i'r rhai a welwyd mewn seddi cyfagos.
Yn lle derbyn bod Rallings a Thresher yn llygaid eu lle fe wnaeth rhai o fewn Plaid Cymru fôr a mynydd ynghylch yr amcangyfrif seneddol gan gyhuddo'r academyddion a'r cyfryngau o ragfarn, camgymeriadau ystadegol a phob math o bechodau eraill.
Oherwydd hynny doedd dim modd ar ôl yr etholiad i'r blaid hawlio clod na brolio ynghylch canlyniad Arfon.
Mae 'na un peth sy'n gwneud i'r cwynion ymddangos hyd yn oed yn fwy gwirion.
Un o gwynion y beirniaid oedd bod llunio amcangyfrif yn Arfon yn hynod o anodd oherwydd y nifer o ymgeiswyr annibynnol mewn etholiadau lleol a'r ffaith nad oedd pob plaid yn sefyll ym mhob ward yn yr etholiadau hynny.
Chi'n gwybod beth? Roedd y beirniaid yn iawn.
Am y rheswm hynny fe fu'n rhaid i Rallings a Thresher chwilio'n ddyfal am ystadegau eraill fel sail i'w hamcangyfrif. Fe wnaethon nhw ganfod rhai hefyd. Beth oedd yr ystadegau hynny? Arolygon barn a chanlyniadau canfasio Plaid Cymru!
Nawr mae pobol TÅ· Gwynfor yn gwybod a deall hyn oll ac maen nhw'n rhoi'r bai am godi disgwyliadau ar aelodau ar lawr gwlad. Efallai, ond a wnaed unrhyw ymdrech i'w ffrwyno?
Mae'r ffilm fach yma'n gwneud y pwynt mewn modd ddylai apelio at genedlaetholwyr!
SylwadauAnfon sylw
Sylwadau diddorol o ran Arfon. Un peth y dylid ei gofio ynghylch ystadegau Rallings a Thresher yw nad ydyn nhw ond yn ail-ddosbarthu'r pleidleisiau a fwriwyd yn etholaethau 2003 i'r etholaethau newydd. H.y. petaen nhw'n rhoi rhy ychydig o bleidleisiau i Blaid Cymru yn Arfon, buasai hynny'n golygu eu bod yn rhoi gormod i'r Blaid yn Aberconwy a Dwyfor Meirionnydd. Felly ni ellir dadlau eu bod wedi rhoi rhy ychydig i'r Blaid ym mhob un o'r tair etholaeth.
Dwi ddim yn gwybod dim byd am arolygon barn Plaid Cymru ond dwi ddim yn credu bod canlyniadau canfasio cyn etholiad 2003 yn ddigon eang a dibynadwy i gefnogi unrhyw dybiaethau ynghylch sut i ddosbarthu'r pleidleisiau rhwng y tair etholaeth.
Y ffigurau mwyaf dibynadwy, dwi'n credu, yw'r samplau y mae pob plaid yn eu cymryd yn y cyfrif pan agorir y blychau ac mae'n bosibl gwneud amcangyfrif eithaf cywir o faint o bleidleisiau go iawn sydd wedi cael eu bwrw ym mhob gorsaf bleidlesio. Mae'r ffigurau hyn yn fwy manwl gywir nag unrhyw dybiaethau seiliedig ar ganlyniadau etholiadau cyngor, arolygon barn na chanlyniadau canfasio. Roedd y ffigurau hyn yn 2003 yn dangos yn glir bod etholwyr o fewn ffinau Arfon wedi rhoi mwyafrif i Lafur - yn wir, mwyafrif ychydig yn fwy na ffigurau Rallings a Thresher.
Mae'r aelodau ar lawr gwlad yn gwybod bod rhannau o Arfon wastad wedi bod yn dalcen caled i Blaid Cymru, a bod canlyniad yr etholiad hwn wedi dangos cynnydd mawr yn ei chefnogaeth, yn enwedig yn ardal Dyffryn Ogwen. Efallai fod y newyddiadurwyr wedi bod yn siarad â'r unigolion anghywir o fewn y Blaid.
Er mwyn bod yn eglur, rwy'n sicr bod trefnwyr ymgyrch Plaid Cymru yn yr etholaeth yn deall y sefyllfa'n iawn. Nid atyn nhw yr oeddwn yn cyfeirio.
Un broblem i PC, dwi'n meddwl, oedd bod nifer o'i phobol orau o safbwynt strategol wedi gorfod treulio gormod o'u hamser yn y trafodaethau ynghylch y dadleuon teledu yn ystod yr ymgyrch. Beth bynnag am y dadleuon eu hun rwy'n amau bod hynny wedi bod yn niweidiol i'r blaid.