Déjà vu a schadenfreude
Mae'n dechrau teimlo fel 2007!
Gwers fawr y broses wnaeth arwain at ffurfio'r Glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae oedd nad y trefniant mwyaf amlwg o reidrwydd yw'r un sy'n cael ei wireddu ar ddiwedd y dydd.
Rwyf wedi bod yn ceisio osgoi gwneud cymariaethau rhwng 2007 a nawr hyd yma. Mae'r fathemateg a'r personoliaethau yn wahanol ac wrth ffurfio clymblaid neu gyrraedd cytundeb mae nifer y seddi a pherthynas personol darpar bartneriaid a'i gilydd yn cyfri.
Y glymblaid amlwg, yr un yr oedd pawb yn disgwyl ei weld, yn 2007 oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn wir fe gymerodd Rhodri Morgan y peth yn ganiataol i'r fath raddau nes iddo beryglu gafael Llafur ar yr awenau.
Nid y berthynas rhwng Rhodri a'i ddarpar dirprwy Mike German oedd y broblem yn 2007 . Yn hytrach y broblem oedd nad oedd Mike German yn gallu cario ei blaid.
Y gwrthwyneb sy'n wir y tro hwn, dybiwn i. Mae'n weddol sicr y byddai Nick Clegg yn gallu darbwyllo'i blaid i dderbyn clymblaid naill ai a Llafur neu'r Ceidwadwyr. Mae'r berthynas rhwng Gordon Brown a Nick Clegg ar y llaw arall yn ymddangos yn un oeraidd, os ydy hi'n bodoli o gwbl. Wedi'r cyfan mae'n anodd teimlo parch nac agosatrwydd tuag at rywun sydd yn fwriadol gwrthod defnyddio enw iawn eich plaid.
Mae'n arwydd o rywbeth efallai bod Gordon Brown wedi dechrau disgrifio plaid Nick Clegg fel y "Liberal Democrats" yn hytrach na'r "Liberal Party" yn ystod y dyddiau diwethaf!
Presenoldeb ac amhoblogrwydd Gordon Brown oedd un rhwystr i gytundeb â Llafur felly ac mae Brown ei hun wedi mynd peth ffordd tuag at ddatrys hynny.
Mae hynny'n gadael y fathemateg. Fe fyddai angen cefnogaeth y Cenedlaetholwyr o bryd i gilydd er mwyn cynnal llywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur.
Does dim amheuaeth gen i y byddai'r gefnogaeth yna ar gael, ar y dechrau o leiaf. Mae pryderon ynghylch effaith cytundebau yn San Steffan ar etholiadau 2011 yn poeni Plaid Cymru a'r SNP cymaint â'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddwy wlad.
Beth bynnag mae Elfyn Llwyd yn dweud, mae arweinwyr Plaid Cymru yn amau'n fawr y byddai dymchwel llywodraeth o dan arweinyddiaeth y blaid Lafur yn San Steffan yn arwain at drychineb etholiadol yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth cofio mai aelodau seneddol Plaid Cymru oedd yr unig rai y tu hwnt i Lafur wnaeth aros yn deyrngar i Jim Callaghan tan y diwedd.
Nawr, mae'n debyg bod 'na sawl tro trwstan i ddod yn y stori yma ac mae'n ddigon posib mai David Cameron fydd yn rhif deg ar ei diwedd.
Ar y llaw arall gellir maddau i newyddiadurwyr Cymreig am deimlo rhyw faint o 'schadenfreude' wrth wylio'n cyfeillion yn San Steffan yn crafu eu pennau wrth ddarganfod pa mor gymhleth ac amhosib eu proffwydo yw sefyllfaoedd fel hyn.
Dyma i chi ddyfyniad o'r Daily Mail.
"There was utter disbelief in Westminster at the development, which means that - four days after the election - there is even more confusion about who could become the next Prime Minister."
Mae trigolion swigen San Steffan ond yn dechrau dysgu! Betia i y bydd 'na gyfarfod yn allweddol yn Llandrindod ymhen rhai wythnosau! Tynnu coes yw dweud hynny. Efallai.
SylwadauAnfon sylw
Rhyw foi ar radio Cymru yn 2007 yn dweud "Dim ond yng Nghymru y gallsen ni gymryd mor hir i ffurfio llywodraeth..."
O'r diwedd, croeso, Brydain, i wleidyddiaeth Ewropeiaidd!
A finnau wedi gobeithio cael amser i ddod i ail adnabod y wraig !!!!! Mae yn rhaid i Mr Brown wneud pethau yn fwy ddiddorol
Wrth fargeinio mae yn bwysig weithiau dod i benderfyniad yn hytrach na dal ati yn y gobaith o gael mwy .Drwy fod yn rhy farus mae perygl i bethau chwalu.
Yn bersonol dwi'n meddwl y gallai fod yn well i adferiad y Blaid Lafur petaent yn treulio peth amser ar y gwrth feinciau. Gyda phethau mor ansefydlog efallai mai byr iawn fyddai'r arhosiad fel gwrthblaid. Yn y cyfamser byddai cyfle da i atgyferthu gydag arewinydd newydd ac fe fydd yn hawdd taflu llid at y democratiad rhyddfrydol a'r ceidwadwyr polisi allai dalu ar ei ganfed maes o law. Y gobaith arall yw y byddai rhaglen fwyaf radical y Blaid Geidwadaol wedi ei llyffetheirio gan yDRh . Y dewis arall fyddai baglu ymlaen gyda chymblaid ansefydlog. Cofia os rhywbeth dwi yn siwr y byddai yn haws gynnal rhaglen gyda Phlaid Cymru ac eraill na chadw trefn ar rhai aelodau maverick y Blaid Lafur.
Kia ora Vaughan,
Diolch i'r tim ar y raglen Etholiad 2010 ar Radio Cymru nos Iau / bore Gwener, ac i'r blogwyr - roedd yn golygu 'mod i'n gallu dilyn y cyfan yn fyw o Seland Newydd.
A diolch Vaughan am yr holl flogio difyr a dadlennol dros gyfnod yr ymgyrchu a'r etholiad.
Mae'n ddifyr gweld yr holl gecru 'ma am bleidiau'n gorfod cydweithio. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wrth gwrs wedi cael profiad o sefyllfa debyg. Ac fe fues i'n siarad rai diwrnodau nol gydag academydd sy'n arbenigo ar etholiadau yn Seland Newydd a systemau pleidleisio drwy'r byd (ac mae ffurff ar PR fan hyn yn Seland Newydd). Os cofiaf i'n iawn fe ddwedodd e nad oes un blaid wedi cael mwyafrif llwyr yn Seland Newydd ers i'r system PR ddod i rym tua 5-6 etholiad nol. A does dim ffys mawr yn cael ei wneud o'r peth o gwbwl. Senb yn cyfeirio at y peth fel senedd grog fan hyn. Mae'r blaid sydd a'r nifer fwyaf o seddi yn cael eu hystyried yn 'enillwyr', ac wedyn mae disgwyl iddyn nhw ddod i ryw gytundeb gyda phlaid neu bleidiau eraill er mwyn ceisio ffurfio llywodraeth sefydlog. Roedd e'n gweld y peth yn ddiddorol mai'r ddwy blaid fwyaf a ddaeth at ei gilydd yng Nghymru - dyw hynny ddim wedi digwydd yn Seland Newydd, a doedd e ddim yn gallu meddwl am enghraifft arall o hynny yn unlle arall. Y prif reswm am hynny, am wn i, yw bod Plaid Cymru a Llafur Cymru yn go agos at ei gilydd ar y sbectrwm dde-chwith, yn wahanol i ddwy brif blaid y rhan fwyaf o wledydd.
Vaughan, sgwn a yw hi'n bosib i chi gael gair yng nghlust cydweithiwr yn yr Alban, pwy bynnag a sgwennodd y darn yn y ddolen isod, i ddweud bod gan y blaid y "Welsh Nationalists" enw swyddogol! Dwi di arfer darllen hynny yn y papurau, ond mae disgwyl gwell gan y ³ÉÈËÂÛ̳.