Y glendid A.V
Dewch ymlaen, mae'r pennawd yna'n haeddu seren arian o leiaf!
Pa bynnag llywodraeth sy'n cael ei ffurfio mae'n debyg y bydd cyflwyno cyfundrefn bleidleisio AV neu refferendwm ynghylch hynny'n rhan o'r cytundeb. Mae'n werth cymryd hoe felly er mwyn cymryd cipolwg ar y ffordd y mae'r bleidlais amgen yn gweithio a'r effaith y byddai'n debyg o gael yn etholiadol.
Mae'r mecanwaith yn ddigon syml. Fe fyddai aelodau seneddol o hyd yn cael eu hethol fesul etholaeth ond yn lle gosod croes wrth ymyl enw un ymgeisydd yn unig disgwylir i etholwyr restri ei dewisiadau trwy nodi 1 am y dewis cyntaf, 2 am yr ail ayb.
Wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfri os nad yw unrhyw ymgeisydd wedi ennill 50% o'r bleidlais mae dewisiadau'r ymgeiswyr lleiaf llwyddiannus yn cael ei ail-ddidoli yn unol â dewisiadau eu cefnogwyr. Yr ymgeisydd cyntaf i gyrraedd y trothwy o 50% yw'r ennillydd.
Mae 'na ambell i fersiwn arall o'r system. Wrth ethol maer Llundain, er enghraifft, dim ond y dewis cyntaf a'r ail-ddewis sy'n cyfri ac mewn ambell i wlad yr ymgeisydd aflwyddiannus nid ei bleidleiswyr sy'n ail-gyfeirio'r pleidleisiau ond nid y rheiny sydd dan sylw yn San Steffan.
Nawr y peth cyntaf i nodi am y bleidlais amgen yw nad yw hi o reidrwydd yn cynhyrchu canlyniad cyfrannol. Cymerwch Gymanwlad Awstralia fel enghraifft. Mae siambr uchaf y wlad honno, y Senedd, yn cael ei hethol trwy system gyfrannol. Ar hyn o bryd mae chwe phlaid yn cael eu cynrychioli yno ac anaml iawn y mae unrhyw blaid a mwyafrif.
Mae'r siambr isaf, TÅ·'r Cynrychiolwyr, ar y llaw arall yn cael ei hethol trwy ddefnyddio'r bleidlais amgen. Tair plaid yn unig sy'n cael eu cynrychioli yno ac mae dwy o'r rheiny mewn clymblaid barhaol. Yn Awstralia felly mae'r system amgen wedi gwneud hi'n anodd i bleidiau llai gwneud marc.
Mae'n bwysig peidio darllen gormod mewn i hynny. Pe bai system amgen wedi ei chyflwyno ym Mhrydain yn y pumdegau neu'r chwedegau pan oedd y ddwy blaid fawr ar eu hanterth mae'n debyg y byddai'r gyfundrefn wedi ychwanegu at eu grym. Mae ei chyflwyno mewn cyfundrefn sydd eisoes yn amlbleidiol yn beth gwahanol.
Y canlyniad mwyaf amlwg fyddai cynnydd yn y nifer o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y senedd. Yn sicr fe fyddai'r blaid honno yn ail ddewis i niferoedd enfawr o gefnogwyr Llafur a'r Ceidwadwyr. Dyna pam y mae'r bleidlais amgen yn wobr mor werthfawr i Nick Clegg a paham y mae cymaint o aelodau Ceidwadol a Llafur yn bryderus yn ei chylch.
SylwadauAnfon sylw
Mi wnes weithio ar y maths etholiadol. Er na fedrwn ni wybod yn sicr pa ffordd fyddai'r pleidleisiau yn syrthio o dan cyfundrefn AV yng Nghymru, ceteris paribus, dim ond 5 sedd fyddai'n debygol o gael ei lenwi gan AS gwahanol: Dwyrain Abertawe (DemRhydd), Arfon (Llafur), Gogledd Caerdydd (Llafur), Gorllewin Casnewydd (DemRhydd) ac Ynys Môn (Plaid).
Hynny yw, un sedd yr un yn llai i'r Ceidwadwyr a Llafur ac un yn fwy i'r Lib Dems. A hynny ar ôl cymhlethdod i'r pleidleiswyr a'r gweinyddwyr fel ei gilydd. Gwastraff amser, arian ac ymdrech.
Ar y llaw arall, mi fyddai PR pur yn arwain at gynrychiolaeth gyfrannol iawn: BNP 1, Ceidwadwyr 10, Democratiaid Rhyddfrydol 9, Llafur 14, Plaid Cymru 5, UKIP 1. (Wrth gwrs does dim sicrwydd sut fyddai pobl yn pleidleisio mewn cyfundrefn newydd.)
Os ddaw refferendwm, mi fyddaf innau, o leiaf yn ymgyrchu yn erbyn AV. Rhith o degwch yn unig. Yn y pen draw, fase dim yn newid.