Ie Dros Gymru
Dydw i ddim yn deall pam mae'r peth wedi cymryd mor hir ond mae'n ymddangos bod yr ymgyrch "ie" ar gyfer refferendwm y Cynulliad ar fin cael ei ffurfio.
Trwy hap a damwain bron mae enwau aelodau'r pwyllgor llywio wedi dod i'r amlwg. Dyma nhw; Rhodri Morgan (Llafur), Leanne Wood (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr) a Rob Humphries (Democratiaid Rhyddfrydol).
Does dim cyfarfod wedi ei drefnu eto nac unrhyw ddyddiad wedi pennu ar gyfer un.
Mae'n ymddangos bod y pleidiau'n ddigon hapus i "Gymru Yfory" barhau i baratoi'r tir ond onid yw'r egin-ymgyrch yn colli cyfle i bregethu ei neges a chasglu cefnogaeth yn Llanelwedd a Glyn Ebwy?