Elin, o Elin...
"Gwnes i bron bwrw mochyn daear ar y lôn y noson o'r blaen ond roedd y diawl yn symud yn rhy gyflym i fi!" Fe wna i ddim enwi'r aelod o'r gwrthbleidiau wnaeth ddweud hynny ond mae barn/rhagfarn gwleidyddion y gwrthbleidiau ynghylch moch daear efallai'n esbonio'u hamharodrwydd i geisio manteisio'n wleidyddol yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys heddiw.
Yn sicr fe fyddai modd i'r gwrthbleidiau alw am ymddiswyddiad gweinidogol ar gynsail Crichel Down sy'n awgrymu bod yn rhaid i weinidog dderbyn y cyfrifoldeb am fethiannau ei adran. Does dim arwydd bod y Ceidwadwyr na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu gwneud hynny ond os oedden nhw mae cwestiwn arall yn codi sef hwn. Pa weinidog ddylai dderbyn y cyfrifoldeb - Elin Jones sy'n bennaeth yr adran berthnasol neu John Griffiths y Cwnsler Cyffredinol?
Nid pwynt bach yw hynny. Pan ffurfiwyd y glymblaid bresennol fe drodd Rhodri Morgan swydd y Cwnsler yn un gwleidyddol fel ffordd o gynyddu'r nifer o weinidogion yn ei gabinet.
Mae'r sefyllfa o'r fath yn codi cwestiynau ynghylch safon y cyngor cyfreithiol y mae'r llywodraeth yn ei dderbyn a hefyd yn cymylu atebolrwydd Gweinidogion am gamgymeriadau cyfreithiol.
Efallai nad yw'r gwrthbleidiau am alw am ben Elin Jones sy'n cael ei gweld fel gweinidog poblogaidd ac effeithiol. Ar y llaw arall onid yw hi'n bryd cwestiynu'r arfer o ddefnyddio penodiad prif swyddog cyfreithiol y llywodraeth fel modd i ddyrchafu a gwobrwyo gwleidydd.
SylwadauAnfon sylw
Mae Elusun o Loegr yn mynd i Llys yn Lloegr i stopio polisi Llywodraeth Cymru - Sut mae hwn gallu fod yn iawn?
Hapus i weld y mochyn daear yn cael ei arbed ac enw da Cymru hefyd - dim ots beth chi'n gwneud gydag Elin Jones - cwrs gwyddoniaeth sylfaenol ro'n i'n awgrymu.
Bendigedig Vaughan
Mae polisi Plaid Cymru yn cael ei weithredu gan gweinidog Plaid Cymru, ond bai Llafur yw hi nad yw'r polisi yn un gyfreithlon.