Um-geiswyr (3)
Mae'n bryd mentro i ffau'r ymgeiswyr unwaith yn rhagor i weld gwaed pwy sydd ar ba fur erbyn hyn.
Yn dilyn fy sgŵp bach ynghylch Ron Davies wythnos yn ôl mae'n ymddangos bod cyn aelod cynulliad arall am geisio atgyfodiad. Deallir bod John Marek yn trio am yr enwebiad Ceidwadol yn Wrecsam.
Fel yn achos Ron fe fyddai cyfanswm ei bleidleisiau fel ymgeisydd annibynnol yn 2007 ynghyd a phleidleisiau ei blaid newydd yn ddigon i ennill y sedd. Ar y llaw arall mae'n gythreulig o anodd credu y bydd cefnogwryr "Forward Wales" yn bwrw pleidlais dros Dori. Dyw Llafur ddim yn torri eu boliau mewn ofn.
Efallai bod fwy o le i boeni gan Bethan Jenkins. Mae , ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli yn yr etholiad cyffredinol yn ceisio am enwebiad ar restr Gorllewin De Cymru. O gymryd bod Dai Lloyd yn sefyll eto mae'n anodd gweld Myfanwy a Bethan yn cyrraedd y Bae.
Yn ôl yn y Gogledd mae'n ymddangos bod Alun Pugh yn ceisio ennill yr enwebiad Llafur yn Ne Clwyd. Mae Llafur wedi dal y sedd ers 1999 ac mae'n bosib y byddai'n well gan y blaid weld Alun yn sefyll yn ei hen etholaeth, Gorllewin Clwyd.
Mae'n anodd gweld Llafur yn sicrhau mwyafrif heb ennill y sedd honno a siawns mai gan Alun y mae'r gobaith gorau o'i chipio.
Diweddariad; Mae ysbiwr yng Nghlwyd yn ychwanegu hyn am sefyllfa John Marek.
Mae'r Toriaid am gynnal "Open Primaries" yn Ne Clwyd a Wrecsam. Alla'i ddim credu fod JM yn hapus a bod Bourne wedi cynnig gwell del na hynny iddo er mwyn croesi'r bont. Mae carfan o'r Toriaid lleol yn cefnogi'r cynghorydd o Rossett Hugh Jones i sefyll yn ei erbyn. Gweler blog Plaidwrecsam am fwy ar hyn. Yn achos De Clwyd, mae na ambell i enw difyr yn ymgeisio - Bell eto, cynghorydd ifanc o Brymbo o'r enw Paul Rogers... a'r Tori wnaeth gystal yn Sir Fon. Chwech enw i gyd dwi'n deall. Dwi'n amau fydd y Toriaid yn difaru mynd am Open Primaries oherwydd y bydd eu cecru mewnol yn dod allan i'r goleuni!
SylwadauAnfon sylw
Ydi'r cwmni Americanaidd Cadbury's bellach yn noddi y tudalennau yma ????? Dwi yn deall ei bod yn galed ymhob man a bod pwysau i ddennu nawdd o ffynhonellau allannol. Os felly cofia gadw rhai darnau siocled i ni y dilynwyr.
Dyma'r ddolen at gyhoeddiad Myfanwy yn Gymraeg:
Dwi'n gobeithio'n fawr iawn y bydd hi'n llwyddo i gael lle uchel ar restr Plaid Cymru yng ngorllewin de Cymru. Does dim amheuaeth gyda fi y bydd Myfanwy yn AC gwych, os caiff hi'r cyfle.