Sgyrsiau
Un o'r pethau difyr yn y job yma yw cadw llygad ar bwy sy'n siarad a phwy o gwmpas y lle a cheisio dyfalu beth yw testun eu sgyrsiau.
Does dim angen bod yn athrylith i synhwyro mai trafod moch daear oedd Elin Jones, John Griffiths a hanner dwsin ac aelodau Ceidwadol yn yr ystafell de'r prynhawn yma. Ond beth am sgwrs fach arall rhwng y cyfreithiwr Emyr Lewis, sydd wedi bod yn feirniadol o'r Mesur Iaith, Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth a Huw Onllwyn Jones gwrw iaith y Llywodraeth? Beth oedden nhw'n trafod, tybed?
"Ffwtbol" medd Huw. Y piti yw bod hynny'n gwbwl credadwy!
Hanner o beth gymrwch chi, hogiau?